Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwbl, mynydd oeddwn i yn y wlad honno, a phe buasai gan fynydd lygad, beth fuasai hyd ein diwrnod ni i'r mynydd digyfnewid, ond y cyfnod rhwng dau darawiad amrant onide?

Wedi meddwl ychydig am y ddau ddynan hyn, tybiais fy mod yn adnabod eu hwynebau. Yn sydyn cofiais hwy,—hwy oedd y ddau ddynan cyntaf a welais pan ddeuthum i Dir y Dyneddon, ychydig funudau ynghynt. Dau fachgen ieuanc oeddynt yr adeg honno, ond yn awr hen wŷr oeddynt â'u cefnau'n crymu. Synnais mor gyflym yr oedd pobl yn byw yn Nhir y Dyneddon. Nid oedd dim cyfnewidiad ynof i, ond fy mod yn oer iawn, ac yn teimlo'n union fel mynydd erbyn hyn. Rhewasai fy chwys hefyd trosof i gyd, ac yr oeddwn yn farrug gwyn o'm pen i'm traed. Wedi meddwl tipyn, gwelais, os fy llygad yn agored rhwng dau darawiad amrant oedd eu dydd, a'm llygad ynghau yn ystod y tarawiad oedd eu nos, nad oedd yn syndod eu bod yn byw yn gyflym iawn, ac yn mynd yn hen bobl mewn ychydig funudau.

Agorais fy llygad wedyn, a syllais am ychydig ar y wlad, a'r canu rhyfedd o amgylch fy mhen yn parhau o hyd, a'm calon yn cadw amser iddo, a minnau wedi fy swyno gymaint nes bod, erbyn hyn, yn hollol fodlon ar fy sefyllfa. Pan oedd fy llygad ar fin cau, gwelwn rywbeth tebyg i niwl gwibiog yn dyfod allan o dyllau yn y ddaear, ac odditan ddail a glaswellt