Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y clawdd, ac odditan gerryg, fel pe buasai'r holl ddaear yn mygu. Unodd y niwl rhyfedd, ac arafodd, yna gwelwn mai minteioedd mawrion o ddyneddon oedd yn nesu at fy nhraed. Cludai rhai goed ar eu cefnau, coed bach iawn,—rhyw fodfedd oedd y pren hwyaf, ac nid oedd yn ffyrfach na gwäell. Cyneuasant dân o'r coed pan gyraeddasant fy nhraed, a chludasant hen ŵr ato, â'i wyneb wedi crebachu o bob ffurf. Gosodasant ef yn ymyl y tân, yna daeth dau ddynan mewn dillad dieithr ymlaen, un bob ochr i'r tân, yn dal rhôl llyfr rhyngddynt, ac yn ei ddarllen, a'r gynulleidfa'n gwrando mor astud nes medru clywed y sug yn rhedeg trwy wythiennau dail y coed.

Fynydd mawr," ebe'r hynaf ohonynt, "y mae ein brenin wedi marw a ninnau yn ei anfon atat ym mwg y tân. Dewis inni frenin yn ei le. Nid oes neb cymwys i deyrnasu arnom ond y neb a allo wneuthur i ti lefaru. Dangos y gŵr yr awron trwy lefaru wrtho." A hwn yn siarad fel hyn, llusgai'r llall gorff yr hen ŵr â'r wyneb crebachlyd yn ddefosiynol, a gosododd ef ar draws y tân. Yna bu distawrwydd mawr.

Ymdrechais siarad, ond yr oedd fy nghorn gwddf yn hollol sych, a'm gwefusau ynghlo. Ceisiais godi fy llaw fel o'r blaen i gyffwrdd fy ngenau â diferyn o ddwfr o'r darn rhew rhyfedd a lynai