Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond llais pelydrau'r sêr, a'r diferion caddug, a'm dagrau, a churiad fy nghalon.

Yn y tawelwch hwnnw teimlwn symud wrth fy nhraed, a rhywbeth fel pe buasai'n ceisio dringo f'esgid o hoelen i hoelen, ac yn cwympo wedyn. Ni fedrwn weled dim am fod fy llygad ynghau. Deuai'r dringo yn uwch nes cyrraedd fy ffêr, yna ar fy nghoes. Wedi cyrraedd honno rhedodd y dringwr yn gyflym, ond wedi cyrraedd gwaelod fy nghorff, arafodd. Disgwyliwn hyn, canys tybiwn y cymerai amser mawr i ddringo a disgyn pletiau fy nillad oedd yn fryniau a dyffrynnoedd i'r dringwr bach, yn enwedig gan eu bod dan farrug trwm. Deuai llonyddwch a thawelwch bob hyn a hyn, a dringo wedyn. O'r diwedd teimlwn y dringwr yn gafael yn edef botwm isaf fy ngwasgod. Daeth awydd agor ar fy llygad, ac agorodd, a phwy a welwn ond y llencyn ieuanc gwelw yn ei waed yn glynu â'i holl egni wrth y botwm isaf hwnnw. Ac yr oedd olion codymau lawer ar ei gorff, ond y goleuni rhyfedd yn ei lygaid heb bylu dim,—os yr un, yr oedd yn fwy tanbaid. Ni wyddai ef, wrth gwrs, mai bachgen o wlad arall a ddringai, am fy mod yn rhy fawr iddo fy ngweled ond bob yn ddarn, ac am fy mod hefyd wedi fy nghuddio â barrug fy chwys. Tua chanol y cyfnod y cadwai fy llygad yn agored, gwelwn ddyneddon yn tyrru at fy nhraed o bobman, ac yn crwydro'n ol a blaen o'm hamgylch, ac ambell