Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i un yn beiddio dringo ychydig ar fy esgidiau, ond yn mynd yn ol yn fuan, a dywedyd:

"Does dim golwg am dano yn unman.

Ni fedrwn ddywedyd dim wrthynt, a theimlwn ef yn dal i ddringo, ac yn llithro ar y barrug o hyd. Gwelwn y dyrfa brudd yn mynd yn ol wedyn pan oedd fy llygad ar fin cau, ac yntau'n dal i ddringo. Cefais un cipolwg arno cyn i'm llygad gau, ac yr oedd ei ddwylo'n llawn o waed, a'i wyneb yn gripiadau a doluriau, a'i ddillad yn rubannau, ond daliai i ddringo o hyd, a goleuai'r goleuni oedd yn ei lygaid fy mron drosti i gyd. Er bod ei ffordd yn serth yr oedd yn amhosibl iddi fod yn dywyll, canys fflachiai ei lygaid dros bopeth. Gorffwysodd ychydig pan gaeodd fy llygad, ond daliodd ati wedyn nes iddo agor. Gwelwn y dyrfa eilwaith yn chwilio, a daeth sŵn wylofain i fyny o fysg y dyneddon, a foddodd tros dro sŵn canu'r pelydrau sêr, a'r caddug, a sŵn canu'r dagrau diball a lifai o'm llygad oedd wedi cau ar y byd rhyfedd hwn.

Ciliodd y dyrfa drachefn pan oedd fy llygad ar fin cau, a'r peth olaf a welais cyn iddo gau yn llwyr oedd y llencyn yn disgyn mewn llewyg ar fy ysgwydd, yn waed i gyd. Pan ddaeth ato ei hun clywais ef yn codi, ac yn gafael ym môn fy nghlust, ac yn rhoddi ei lin ynddi, a neidio i fyny gan afael mewn dyrnaid o wallt, yna'n sefyll ar ei draed yn gadarn ar ris gwaelod fy nghlust. Teimlwn ef yn