Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfod yn araf a gofalus ar hyd asgwrn fy ngên; llithrodd, ond daliodd ei afael â'i holl egni yn fy ngwefus. Dringodd wedyn, gafaelodd ym mhont fy nhrwyn gan sefyll ar fy ngwefus, a chlywn ef yn anadlu'n gyflym, a byr, a llesg.

Yn y man daeth awydd agor ar fy llygad, a phan agorodd, daeth rhyw "O!" mwyaf annisgrifiol o rywle o waelod calon y llencyn, a gwelwn ef yn syllu ym myw fy llygad. A'r fath olwg oedd arno—ei wyneb yn gripiadau a doluriau i gyd, ei ddwylo wedi eu rhwygo, a'i ddillad yn ddarnau, a'i waed yn ffrydio trwyddynt, ond gellid meddwl yn ol yr olwg oedd ar ei lygaid na fu erioed mor wyn a diboen ei fyd.

Pan gafodd ei anadl ato:

"O! haul gogoneddus," meddai, "O'r diwedd dyma dy weled yn codi yn dy gartref dy hun. Rhaid imi gael edrych i fyw dy lygad hyd yn oed pe buasai raid i mi farw ar ben y mynydd wedi fy nallu gennyt,"—a syllodd ar fy llygad agored, Tybiais y dellid ef gan fod ei lygaid mor fawr, ac wedi eu cymhwyso i weled mewn tywyllwch. Ond yr oedd rhyw wres ym mhelydrau ei lygaid yn dyfod megis o rywle y tuhwnt i'r llygaid eu hunain, cryfach na dim a ddeuai o'm llygad i, ac er fy syndod, yn lle bod fy llygad i yn ei ddallu ef, toddai ei lygaid ef y rhew ar fy llygad i, a dechreuodd ddiferu. Pan welodd hyn ciliodd o ffordd y diferion rhag iddynt ei daro i lawr: