Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O! fynydd," meddai, ac y mae i tithau dy deimladau, ac nid yw dy ffrydiau ond dagrau dy haul. Yn awr llefara wrthyf, nid er mwyn imi fod yn frenin, ond er mwyn imi fod yn ddedwydd. Y mae gofyniadau yn fy mynwes na all offeiriaid y dyneddon eu hateb.'

Eithr ni allwn ddywedyd gair, er ceisio fy ngoreu, yr oedd fy ngwefusau wedi eu selio. Daliodd ei hun o'r diwedd o dan y diferion a ddeuai o'r darn rhew, ac er eu bod bron yn ddigon cryf i'w daro i lawr, arhosai danynt a daliai ei afael ym mhont fy nhrwyn â'i holl egni. Arhosodd yno'n hir nes bod fy llygad ar fin cau wedyn. Yna tywyllodd ei lygaid a dechreuodd ddisgyn, ac mor fawr oedd y gofid ar ei wyneb nes fy mod yn falch mai ar fin cau yr oedd fy llygad rhag gorfod edrych arno. Yr oedd ei gorff yn wlyb gan ddiferion y darn rhew. Pan gyffyrddodd y gwlybaniaeth â'm gwefusau, agorasant, a dechreuais siarad, a chredais y syrthiai gan faint ei lawenydd.

Dywedais wrtho beth oedd yn fy nghalon, a dywedais hanes y sêr, a'r caddug, a churiad fy nghalon, a'm dagrau wrtho, ac addewais ddal i lefaru wrtho o hyd wedi iddo ddisgyn at fy nhraed. Dywedais hefyd na allwn lefaru wedi i'm gwefusau sychu, ac nad oedd dim a'u gwlychai ond i rywun fel ef ddringo i fyny atynt, er maint y boen. Eithr nid oedd hynny yn ddim iddo ef. Teimlwn innau