Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei bod yn werth adrodd y cyfrinachau dyfnaf i un a anturiai gymryd ei fedyddio hyd yn oed yn nagrau'r haul os byddai raid cyn rhoddi ei gais i fyny. A'r dagrau a dynnodd ef o'm llygad a'm cymhwysodd innau i lefaru wrtho.

Bu'n sefyll ar fy ngwefusau'n hir, fel un wedi ei feddiannu, nes i'm llygad gau, yna dechreuodd ddisgyn. Gorffwysodd ar fy ysgwydd nes i'm llygad agor wedyn, yna disgyn o fotwm i fotwm, ac o blêt i blêt, oedd yn greigiau a bryniau a dyffrynnoedd iddo ef. O'r diwedd cyrhaeddodd y gwaelod. Cyrhaeddodd pan oedd y dyrfa ar fin rhoddi heibio i chwilio am dano, ac ni chlywsoch erioed y fath fonllef ar fonllef o lawenydd ag a ddyrchafodd o'r dyrfa pan welodd ef:

En wedi dyfod yn ol! En wedi dyfod yn ol!" gwaeddai pawb. Adroddodd En iddynt fy meddyliau, ond ni ddeallent hwy mohonynt, eithr deallent y gwaed oedd ar ei gorff a rhwygiadau ei ddillad:

"Dyma'r brenin!" ebe pawb, a dechreuasant ddawnsio mor gyflym o'i amgylch nes iddo ymddangos fel pe buasai yno ei hunan yn unig â chylch o niwl gwibiog o'i amgylch. Dylaswn ddywedyd ddarfod i ferch ieuanc fodrwyog a gemog, yr harddaf a fu erioed, ddyfod ymlaen i olchi ei waed a thrwsio ei ddoluriau, hyd yn oed cyn gwybod beth fuasai teimladau'r gynulleidfa tuag ato wedi ei weled yn y fath gyflwr. Ac nid yw pob cynulleidfa'n parchu