Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr oedd eu sŵn fel pe baent yn chwerthin wrth y gwaith. Llifai fy nagrau'n gyflymach o'r llygad a wrthodai agor ar y byd newydd hwn yr oeddwn ynddo, a chanent wrth ddisgyn i lawr fy ngrudd a'm corff. Er nad oedd y llygad hwn am gydnabod bod y byd yr oeddwn ynddo, methai beidio â wylo'n drwm dan ei ddylanwad.

Yr oedd rhyw ganu anghyffredin yn yr awyr— gylch i gyd, ac unai trigolion y gaeaf a'r haf yn unllais yn y gân. Fel y cliriai'r caddug gwelwn dyrfa o ddyneddon mewn dillad geirwon, yn casglu o amgylch fy nhraed ac arfau gwaith ar eu hysgwyddau ac eu dwylo. Dechreuasant â'u holl egni dorri llwybr at y rhan o'm godre y disgynnai fy nagrau i'r llawr ynddi. Edrychais i'r fan, ac O! yr olygfa oedd yno. Ni ddychmygais erioed fod yn bosibl i ddagrau fynd mor hardd, gan na welais ddagrau erioed yn mynd yn ddim tebyg yn ein gwlad ni. Yn Nhir y Dyneddon y try dagrau i ganu ac i greu golygfeydd swynol. Llifent i lawr fy nghorff trwy'r barrug a'm cuddiai, ac fel y dynesent at y gwaelod mewn rhaeadr, dechreuent rewi, a'r rhew hwn a wnai'r olygfa. Cymerai'r rhew bob ffurf y gellwch feddwl amdani, a ffurfiau na feddyliasoch erioed amdanynt. Ar y chwith troes i ffurf mintai o angylion ar fin cau eu hadenydd wrth ddisgyn i'r ddaear. Ac yr oedd yr adenydd hanner agor hyn fel nenlenni godidog, ac ymylwe gain, gyfoethog,