iddynt. Tua'r canol, troes fy nagrau i ffurf saint â'u dwylo ynghau ar eu hwynebau mewn gweddi. Uwch ben y rhai hyn ymestynnai llenni ysblennydd allan tros y gwagle, ac o dan eu traed yr oedd twmpathau marmor, a phob ochr iddynt bileri fel pileri teml, a'r cwbl yn disgleirio. Tros y cwbl yr oedd lliwiau gwyrdd a melyn a gwyn. O dan y rhew hwn disgynnai'r diferion dagrau oedd heb rewi, gan atseinio trwyddo a'i wneuthur yn fath ar gloch fawr, a deffroai hon y wlad i gyd. Wrth gwrs ni fuasai'r cwbl yn ein gwlad ni yn fwy na chragen go lew, ond yr oedd yn fawr iawn ac yn ardderchog iawn yn Nhir y Dyneddon, mor fawr ac ardderchog nes iddynt wneuthur teml ohoni. Try dagrau'n deml, wrth oeri, yn Nhir y Dyneddon.
Canai adar bach, y rhai lleiaf a welsoch erioed, a chymaint o wahaniaeth rhyngddynt â dryw ag sydd rhwng dryw â cholomen. Tyfai ambell flodyn, ac yr oedd sŵn canu yn ei dyfiant. Ychydig o ganu pethau yn tyfu oedd yno. Peidiasai'r glaswellt a phethau eraill â thyfu ar ol rhyw ychydig o eiliadau wedi imi gyrraedd y wlad. Deffrodd y pryfed yn fawr a mân, a phopeth arall, yn sŵn y gloch ddagrau a drowyd yn deml, a'r sŵn curo, a rhuthrasant i gyd yno o rywle o'r golwg.
Plannai'r gweithwyr goed pinwydd bach, bach, o amgylch y deml rew wrth fy ngodre, a gwnaent lwybr trwyddynt dan y llenni ysblennydd o rew