Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyrdd a melyn a gwyn, a than gysgod adenydd yr angylion oedd yn hanner agor. O'r diwedd daeth byddin o ddyneddon mewn dillad amryliw o amgylch y porth, â chleddyfau ganddynt wedi eu gwneuthur o odre pelydrau sêr. Bu'r gweithwyr wrthi am ryw ddau neu dri caead ar fy llygad,— rhyw dridiau, felly, yn eu gwlad hwy, a'r canu hwn wrthi hi o hyd, o hyd.

Wedi iddynt orffen dyblodd grym yr holl ganu ag angerdd newydd, a gwelwn y niwl gwibiog a welais droeon o'r blaen draw ac yma ymhobman,—y bobl oedd yn casglu at ei gilydd. Pan ddaethant ynghyd ffurfient dyrfa oedd bron yn ddiderfyn, a safasant bob ochr i'r ffordd a arweiniai at y deml rew. Yna gwelid gorymdaith yn dyfod o'r pellter. Ar flaen yr orymdaith yr oedd seindorf yn canu cyrn arian o glychau iâ â'u holl egni. Ar ei hol deuai un arall yn canu cennin y gwinwydd, ac mor fawr oeddynt nes bod rhaid i ddau ohonynt afael ymhob un. Ar ol y seindorf hon deuai un arall yn canu clychau'r gôg, ac ar ei hol hithau un arall yn canu cyrn aur wedi eu gwneuthur o wellt gwenith. Ar ol y seindyrf wele rês ddwbl hir o filwyr yn dyfod ar gefn gwybed amryliw, a milwr mawr tua modfedd a hanner o daldra o'u blaen ar gefn gwas neidr. Yr oedd yr arweinydd hwn a'i farch yn hardd iawn, gan eu bod wedi eu gwisgo â holl liwiau'r enfys. Yna daeth rhes ddwbl arall o filwyr mewn lliwiau