Fel y tynnai'r llyffant yn nes i deml fy nagrau, curai'r pelydrau sêr a dywynnai i lawr arnaf mor gyflym nes bod y pelydrau sêr a godai o'r llynnoedd dwfr yn y gwaelod yn canu fel telyn. Curai dafnau niwl anadl y creaduriaid yn ei gilydd hefyd nes canu fel clychau tros y wlad. Trwy'r cwbl yr oedd y ddaear a'r awyr yn ganu i gyd, a thrwy'r canu clywid sŵn cerdded araf, cyson, urddasol y gwybed a'r chwilod, a'r llyffant a gludai'r brenin a'r frenhines. A'r tu ol i'r orymdaith fawr, a thipyn o amser rhyngddynt, deuai mintai o forgrug a gwrachod lludw, yn cario bwyd ar gyfer y wledd.
O'r diwedd cyrhaeddodd yr orymdaith y deml rew, a safodd y llyffant a'i lwyth ychydig cyn cyrraedd y llen odidocaf o'r cwbl. Casglodd y dyrfa ynghyd oddiamgylch, ond heb ddyfod yn rhy agos rhag iddynt grynu'r ddaear â'u dwndwr nes i'r deml gwympo,—dyna'r ffordd y dinistrir temlau yn Nhir y Dyneddon, trwy ddwndwr y difeddwl. Daeth y mab a'r ferch oddiar gefn y llyffant, cerddasant yn ddiesgeulus dan y llen odidocaf honno, ac aethant ar eu gliniau. Tir rhyfedd yw Tir y Dyneddon,— o ddagrau y gwneir temlau yno, a'r bachgen fu'n gwaedu er mwyn clywed y mynydd yn adrodd ei gyfrinach, a'r ferch a olchodd ei waed ac a drwsiodd ei ddoluriau, o bawb, a wnaed yn frenin a brenhines. Ac yr oedd seindorf pob tymor ynghyd yn yr orymdaith.