Peidiodd pob sŵn pan blygodd y mab a'r ferch ar eu gliniau, ond sŵn y diferion a wnai'r deml rew yn un gloch fawr. Cyfododd rhywun ar ei draed, a eisteddai yn y pen pellaf o dan y llen fawr, ac yr oedd clychau iâ yn ymylwe ar odre ei fantell, ac ar ei llewys a'i gwddf. Dechreuodd hwn ddarllen a siarad, ac o'r diwedd dywedodd fod En y mab, ac Eg y ferch, yn ŵr a gwraig briod ynghyd. Estynnwyd dwy goron o blu eira iddo gan rywun, a rhoddodd hwy ar eu pennau, ac ni welwyd erioed blu eira â'u seithliw'n ddisgleiriach a'u plethiad yn fwy cain. Yna dywedodd y gŵr a'u coronodd mai hwy o hynny allan fyddai brenin a brenhines y wlad. Bellach, nid dau fyddent, ond un—un yn eu cartref, ac un ar yr orsedd.
Ar hyn dyna un floedd fawr yn diaspedain, nes crynu'r deml yn beryglus, ac enwau'r brenin a'r frenhines wedi toddi ynghyd yn un i'w glywed ar bob llaw. Ac wrth gwrs, yr enw hwnnw oedd Eng. Dyna'r gair a seinid yn yr holl nodau a genid, pa mor uchel neu mor isel bynnag y byddent. Eng a ganai fy nagrau a ddisgynnai o'r llygad a wrthodai agor ar y byd newydd hwn. Eng a genid gan wahanol nodau pelydrau'r sêr. Eng meddai'r diferion niwl a godai o'r barrug a'm cuddiai, wrth daro yn ei gilydd. Eng oedd sŵn tyfu pob blodyn wrth ymwthio o'r tir. Dyna hefyd a genid gan y clychau iâ, a chlychau'r gôg, a chennin y gwinwydd, a chyrn