gwellt gwenith, yn eu gwahanol nodau. Ac O! y canu a glybûm pan gychwynnodd y brenin a'r frenhines yn ol. Ymunai popeth i ganu'n unllais mewn mil o nodau, ond yr un gair a glywid ymhob nodyn, a hwnnw oedd Eng.
Wedi mynd dipyn o ffordd o'r deml safodd yr orymdaith, a chasglodd o amgylch y brenin, ac esboniodd yntau iddi feddyliau'r mynydd, a meddyliau'r sêr, a meddyliau'r coed a'r ddaear, fel yr adroddasant hwy wrtho ef o dro i dro, a synnai pawb fod y byd o'u hamgylch mor gyfoethog o feddyliau a hwythau heb wybod dim amdanynt. Ar ol i'r brenin orffen dechreuodd y canu wedyn, mewn mil o nodau, ond yr un gair a seinid ymhob nodyn, a hwnnw oedd Eng. A pharhaodd y canu nes imi gau fy llygad.
Wedi dyfod yn ol i'm gwlad fy hun, sylwais mai Eng yw'r gair a genir gan bopeth yn y byd o'm hamgylch. Os gwrandewch, dyna'r gair a glywch gan yr ŷd dan yr awel, a'r nant wrth sisial, a'r dail wrth ysgwyd a churo'i gilydd, a hyd yn oed gan wifrau'r teligraff, a dwfr poeth mewn cwpan dê â chrac ynddi. A wnant hyn, tybed, mewn coffadwriaeth am briodas En ac Eg, brenin a brenhines y wlad lle cedwir popeth sy'n canu yn y byd yma, o'r rhew i'r blodau, nes ein bod mewn angen amdano? Os felly, y mae'n hyfryd gan bethau'r byd feddwl fod ei drysorau ynghadw yn y wlad a ddewisodd