Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny onibai fod y brenin wedi eu hatgoffa o'r helynt y buont ynddo wrth chwarae'n ddibaid ar ei waethaf ef. A da iawn oedd iddynt wrando ar y brenin, neu chwalasai'r deyrnas, ac aethai'r dyneddon o dan draed y chwilod a'r gwybed, canys ni chlywsai yr un a ddyfeisiodd yr olwyn gyntaf mo'r mynydd yn siarad, ac ni allai neb gadw'r deyrnas wrth ei gilydd, ond un a ddeallai feddwl y mynydd, ac a glywsai beth a ganai'r pelydrau sêr ar flew ei wallt, ac a wypai beth oedd meddwl y cwmwl yn y gân a ganai ei ddiferion wrth daro yn ei gilydd o amgylch pen y mynydd. Gwelsant fod yn bosibl iddynt gael pethau da iawn trwy anturiaethau'r chwaraeon, ond na allent gael y pethau goreu i gyd.

Nid oedd dim yn tycio i Ec ac Ii, a'r tri arall, ar ol i'r brenin wella'r crafu rhyfedd hwnnw, ond chwarae brenin. Weithiau âi Ec yn llyffant ac Ii yn frenin ar ei gefn, ac Aets, ac Aa, ac El, yn weision iddynt; weithiau âi Ii yn llyffant ac Ec yn frenin, ac âi pob un ohonynt yn rhywbeth yn ei dro. Un diwrnod wedi chwarae pob ffurf ar fywyd y brenin y gallent feddwl amdani, meddyliodd Ec mai iawn fuasai ceisio gwneuthur yr un peth ag a wnaeth y brenin pan ddangosodd mai ef oedd y brenin i fod, a'r peth hwnnw oedd dringo'r mynydd i'w glywed yn siarad, ac i weled yr haul yn codi. I ffwrdd â hwy yn syth. Dechreuasant trwy redeg i fyny—ni fuont yn dringo mynydd erioed o'r blaen. O dipyn i