Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth aethant i gerdded, dringent ychydig ac eisteddent i lawr, yna dringo wedyn ac eistedd tipyn, nes blino'n lân. Wedi cyrraedd tua'r ail fotwm ar fy nghôt, a gorffwys dan ei gysgod, dechreuasant deimlo syched anghyffredin ill pump. Crwydrasant nes dyfod at ffrwd fy nagrau, ac yfasant o'i dwfr, ond ni hoffent ef o gwbl. Yr oedd cam-flas arno iddynt hwy. Braidd yn ieuanc oeddynt i yfed o ddiod mor gref. Eisteddasant i siarad, a sonient am yr adeg pan fyddai'r cyntaf ohonynt a glywai'r mynydd yn siarad, yn frenin, wedi marw o'r brenin oedd ganddynt, ac fel y byddai pawb yn ddifyr a diboen eu byd yr adeg honno. O dipyn i beth llonyddasant a chysgasant, ond nid am y brenin a'r byd diboen oedd i ddyfod y breuddwydiodd yr un ohonynt, ond am gartref, a'u rhieni, a'r deml rew, a phethau na chlywsant erioed am danynt. Dwfr y ffrwd ddagrau oedd yn gweithio ynddynt, ac yn deffro hiraeth am y pethau anwylaf oedd ganddynt, rhai ohonynt yn bethau na welsent mohonynt erioed, ac na chlywsent erioed son amdanynt, a daeth awydd mawr arnynt am gael gweled eu cartref, a'u rhieni, a'r pethau eraill na wyddent beth oeddynt. Yr oedd rhyw elfen felly yn nwfr y ffrwd ddagrau,—deffro yn yr hwn a yfai ohono ryw hiraeth am bethau na ddychmygodd erioed am eu bod, heblaw hiraeth mawr am ei dad a'i fam. Deffrôdd y bechgyn hyn o'r diwedd a