dechreuasant deimlo, meddynt wrth ei gilydd, eu bod wedi gadael cartref ers cymaint o amser nes bod arnynt awydd mawr am weld eu rhieni, mwy o awydd na hyd yn oed am glywed y mynydd yn siarad a gweld yr haul yn codi ar ei ben. Yn wir, yr oedd arnynt gymaint o hiraeth amdanynt a phe na buasent wedi eu gweld ers blynyddoedd. Ac nid yw'r mynydd am ddywedyd dim wrth neb ond y rhai sy'n fodlon aberthu hyd yn oed hiraeth er ei fwyn. Y cwestiwn mawr yn awr oedd, pa fodd yr oedd y cyntaf i fynd i lawr, oherwydd buasai cerdded yn ol yn tybio cymryd amser mawr. Ac aeth yn gystadleuaeth. Cychwynnodd Aets ac Aa redeg am y cyntaf, ac ni welsoch erioed gamau brasach i ddyneddon na'r eiddynt hwy. Eisteddodd El ar garreg, a dechreuodd lithro i lawr y mynydd mor gyflym ag i chwi fethu ei weld ond ar brydiau. Gorweddodd Ii, a rholiodd i lawr, pasiodd El ar y ffordd tan chwerthin yn braf, a tharawodd yn erbyn un o goesau Aa ac yn erbyn un o goesau Aets, oedd yn methu curo y naill a'r llall, nes eu bod ar eu hyd ar lawr, ac i ffwrdd ag ef tan rolio. Gallai anturio gwneuthur hynny fel y mynnai am mai amhosibl oedd brifo wrth chwarae yn Nhir y Dyneddon. Eisteddai Ec i lawr i'w gweled yn mynd, â rhyw wên yng nghongl ei lygad, a ddangosai fod cynllun yn ei ben, gwell nag eiddo 'r un ohonynt. Wedi iddynt fynd dipyn o ffordd gwyrodd ei ben at ei draed, a phlethodd
Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/74
Gwedd