hwy am ei wddf onid oedd yn union fel olwyn, ac i lawr y mynydd ag ef fel mellten gan droi fel olwyn yn union. Pasiodd Aets ac Aa oedd ar ganol rhwbio'r baw ymaith ar ol eu cwymp. Pasiodd El heb edrych arno, yna pasiodd Ii, ac i lawr ag ef i'r gwaelod cyn i'r goreu ohonynt brin gyrraedd hanner y ffordd i lawr. Wedi cyrraedd eisteddodd a chwarddodd tros y wlad wrth feddwl fel yr oedd wedi eu curo.
Pan ddaeth y cwbl ynghyd rhaid oedd iddo esbonio ei wrhydri iddynt, canys ni welsant sut yr aeth i lawr, gan mor gyflym yr aethai heibio iddynt, Wedi'r esbonio, ni choelient ef ar y cyntaf. O'r diwedd dywedodd wrth Ii, yr amheuwr mwyaf, y cariai ef os mynnai; ac i fyny â hwy yn ol, tan golli eu gwynt a phesychu. Gorweddodd Ec ar lawr, ac 'Ii' ar ei draws; yna lapiodd Ec ei hun am Ii, a phlethodd ei draed am ei ben fel o'r blaen, nes bod Ec fel olwyn ac Ii yn echel iddo. Ac i lawr â hwy fel mellten. Wedi cyrraedd y gwaelod synnodd pawb at fedrusrwydd Ec, ac yr oedd Ii wrth ei fodd â'r dull newydd yma o deithio.
Wedi gorffwys tipyn dywedodd Ec fod ganddo gynllun i fynd â phedwar ohonynt ynghyd, a dyna oedd hwnnw,—iddo ef fynd yn olwyn ac 'Ii' yn echel iddo, i Aets orwedd i lawr ag un troed ar draed Ii, a'r llall ar ei wddf, ac estyn ei freichiau i fyny heibio ei ben a'u cadw yn stiff felly, ac i Aa afael yn nwylo