Aets a'i wthio, yna aent yn iawn. Amheuai pawb y cynllun ond Ec, eithr penderfynasant ei brofi am fod Ec wedi ei ddangos ei hun mor fedrus eisoes. Dyna gychwyn, ond fel y troai Ii, llithrai o hyd oddiar Aets, nes i Aets daro ar gynllun o bwyso arno â'i wadnau, a'i ddal yn ei le â'i sodlau; yna er syndod pawb gweithiai pethau'n ardderchog,—aent ymlaen yn union fel yr hyn a alwn ni yn ferfa. Gadawsid El ar ol yn sefyll i edrych, ond nid oedd ef am gymryd ei adael mor rhwydd a hynny, ac wedi gweled mor hwylus yr aent rhedodd ar eu holau, neidiodd ar fynwes Aets, ac i ffwrdd â hwy oll, felly, tan chwerthin, y pedwar arall yn ferfa, ac El yn deithiwr ynddi. Ac felly yr aethant i mewn i'r pentref. Rhedodd pawb o'r golwg gan ofn pan welsant hwy gyntaf, ond daeth un ac arall o'r rhai mwyaf mentrus allan o dipyn i beth, nes o'r diwedd i bawb gasglu o'u hamgylch, a phan welsant y pum bachgen direidus hyn yn datod oddiwrth ei gilydd, chwarddodd pawb nes siglo, a rhai ohonynt yn rholio ar hyd y llawr gan chwerthin. Yn clywed twrw daeth y brenin allan, plygodd y pump eu pennau, a gwahoddasant ef i fod yn deithiwr yn lle El. Ffurfiasant yn ferfa wedyn, eisteddodd y brenin ar fynwes Aets, ac aethant o amgylch y dyrfa ac yn ol. Wrth wneuthur hyn ni allent beidio â chwerthin nes i'w sŵn fod fel miloedd o glychau iâ yn taro yn ei gilydd. Yn wir yr oedd yn hyfrytach o lawer na chanu clychau
Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/76
Gwedd