iâ a chlychau'r gôg,—ni chlybuwyd erioed chwerthin mor felys â chwerthin y bechgyn hyn wrth gario'r brenin. Wedi i'r brenin ddyfod oddiar fynwes Aets gofynnwyd iddynt beth oedd y chwerthin dilywodraeth yma oedd arnynt, a dywedasant na allent beidio,—bod rhyw ddedwyddwch annisgrifiol wedi dyfod drostynt wrth gario'r brenin. Cymerasant amryw eraill o amgylch yn eu tro, a chwarddent yr un mor felodaidd ar bob taith, gan faint y dedwyddwch rhyfedd a ddeuai trostynt. Ac mor ddieithr oedd y dedwyddwch rhyfedd nes i'r brenin gychwyn dihareb oedd ar lafar yno tra y bum yn y wlad, a'r ddihareb oedd "A fo dedwydd bid ferfa." Cewch chwi ei hesbonio yn eich ffordd eich hunain.
Ni bu erioed y fath rialtwch, a bu bron i bawb golli eu pennau eilwaith, a gwneuthur Ec yn frenin, ond gofynnodd un hen ddynan i Ec a glywsai'r mynydd yn siarad, a phan gyfaddefodd fod hiraeth am gartref wedi ei rwystro i'w gopa, ysgydwodd yr hen ŵr ei ben, a deallodd pawb beth a feddyliai. Gwyddent na allai neb ddisgwyl clywed y mynydd yn siarad os cadwai hyd yn oed ei gartref yn ei feddwl o flaen yr awydd am ei glywed. Er hynny aeth Ec yn boblogaidd iawn, a chan mai ef oedd yr unig un a allai wneuthur olwyn ohono ei hun, rhaid oedd gwneuthur berfa o rywbeth heblaw o ddyneddon bach, ac Ec a ddarganfu'r ffordd. Dywedodd y brenin mai wrth fynd yn olwyn berfa ei hun y darganfu