Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ec y ffordd o wneuthur berfa o rywbeth arall, bod yn rhaid i chwi fynd dan y baich eich hun bob amser cyn taro ar gynllun i wneud beichiau'n ysgafn. A'r "rhywbeth arall" yma oedd coed. Yr adeg honno y meddyliwyd am ferfa goed am y tro cyntaf erioed. A'r cyntaf i fynd iddi oedd y brenin, er mwyn ei phrofi cyn i neb arall anturio iddi. Ni chlywsoch erioed ddim yn gwichian cymaint, wrth symud, a'r ferfa honno; a dywedai pawb mai ceisio chwerthin yr ydoedd am ei bod mor ddedwydd wrth gario'r brenin. O ran hynny, gwichiai'r ferfa bren beth bynnag a roddech ynddi. Cofiodd y bobl ddihareb y brenin, a phenderfynasant fod y dedwyddwch o gario beichiau eraill mor fawr nes bod hyd yn oed berfa bren yn chwerthin wrth y gwaith. Ac ni chlybuwyd am bren yn chwerthin erioed o'r blaen.

Nid oedd Ec yn hollol fodlon ar ei ferfa fel peth priodol i gario'r brenin ynddi, am y siglai gymaint o un ochr i'r llall. Pwy a gyfarfu ag ef un diwrnod ond cefnder iddo o'r enw Oo. Edrychodd arno a dywedodd wrtho y dylai wneuthur cystal olwyn ag yntau, ac wedi tipyn o ymarfer llwyddodd Oo i wneuthur olwyn ardderchog ohono ei hun. Casglwyd y gweddill o'r bechgyn direidus ynghyd, lapiodd Ec ei hun am draed Ii, ac Oo ei hun am ei wddf, gosododd Aets ei hun ar ei hyd fel o'r blaen, ac yn lle gwthio aeth Aa i dynnu rhwng breichiau