AETH cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth heibio, heb imi fedru gwneuthur dim ond prin eu cyfrif, yna bu'r digwyddiad hwn. Un bore, ymhell cyn i'm llygad agor, teimlwn awydd hynny,
hynny, canys clywn ryw sŵn rhyfedd na chlybûm erioed mohono o'r blaen. Dechreuodd fel su'r ffrwd ddagrau a ddisgynnai y tu ol i rew y deml, o'i glywed o'r pellter, ond wrth gynhyddu lleddfai fel griddfan plentyn bach mewn poen, a dwy ystafell neu dair rhyngoch ag ef. Clywais hynny unwaith pan fu farw Annie Bach. Ar ol peidio â gweiddi yn ei phoen, aeth i riddfan yn ysgafn, ysgafn, ac ysgafn iawn oedd o'n hystafell ni â dwy ystafell rhyngddi a'r un y bu hi farw ynddi. Dyna'r sŵn rhyfeddaf a glywais erioed. Nid oedd yn debyg i ddim ond i'r awyr ei hun yn ochneidio yn ei hunigrwydd, rhwng y mynyddoedd pell. Sŵn felly a'm deffrôdd y bore hwn. Pan agorais fy llygad, yr oedd prudd-der dieithr tros y tir; a'r dyneddon, yn lle dawnsio a chwarae, yn sefyll yn dyrrau yma ac acw yn edrych yn brudd a syn. Daeth chwa â'r griddfan