Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgafn yn gryfach tuag ataf, ac wrth sylwi, gwelais yr achos,—y blodau oedd i gyd yn glaf, ac yn gwyro eu pennau tua'r ddaear, a phob un yn griddfan, fel y gwna blodyn pan fo mewn poen.

Dechreuodd y dyneddon, yn y man, wneuthur eu goreu yn wyllt i'w gwella, a'u dal i fyny, ond syrthio i'r ddaear yn llesg a wnaent, y naill ar ol y llall. Canu hyfrytaf y wlad oedd canu tyfiant y blodau, yn enwedig rhai ohonynt, ond darfu hwnnw, ac yn ei le yr ochain tyner, aflonydd hwn. A gwlad flodeuog yw Tir y Dyneddon,—onid yw holl flodau pob tymor yno yn tyfu ynghyd? A hi yw cartref holl bethau hyfryd ein gwlad ni, na ddeuant yma ond yn eu tro, yn gymysg â phethau chwerw.

Fel y byddai'r naill flodyn ar ol y llall farw, ysgafnhai'r griddfan, ac o'r diwedd ni chlywid dim ond rhyw su ysgafn o riddfan teneu, oedd fel pedfai ymhobman ar unwaith heb fod mewn unrhyw le neilltuol, ac na ellir clywed ei fath byth ond yn Nhir y Dyneddon. Y blodyn olaf yn y wlad yn marw ydoedd. Casglodd y dyneddon oll o'i amgylch, heb fedru gwneuthur dim drosto. Peidiodd y sŵn, a syrthiodd yntau hefyd i'r ddaear, gan adael gwlad lom, lonydd, ar ei ol, a'r dyneddon yn aros yn hir yno'n syllu arno heb neb yn symud na bys na bawd. Tawodd holl fiwsig y tyfu, a chan i'r blodau dewi tawodd yr adar. Ni churai hyd yn oed y diferion niwl yn ei gilydd, oherwydd oerfel caled oedd tros