Sibrydent â'i gilydd, ond gan fod diferyn o'r rhew oddiar fy llygad yn dal ar fy nghlust clywn bob gair. Wedi penderfynu chwilio am y dewin yr oeddynt, ac yn methu gwybod ymhle yr oedd y Tir Tywyll. O'r diwedd penderfynasant mai'r tu ol imi, y mynydd mawr, yr oedd, gan ei bod yn naturiol na thywynnai'r haul, a welent yn diffodd a goleuo bob amser yn yr un fan, yr ochr honno. Ac i ffwrdd â hwy. Bu'r wlad yn hir yn llonydd, a phan ddaeth dyneddon i'r golwg, edrych yn syn a gwyllt yr oeddynt i gyd. Aeth Aa ac Em law yn llaw heibio i'm hochr. Er iddynt fynd o'm golwg yr oeddwn yn fyw i bob symud o'u heiddo. Tybiai'r daith ddyddiau iddynt cyn cyrraedd ffin y Tir Tywyll. Gorffwysent ar flew brethyn fy nillad oedd yn dwmpathau iddynt hwy. A phob cynllun a gynlluniasant er eu cadw eu hunain ar fynd. Crwydrent yn ddiamcan am ambell ddiwrnod cyfan, a throent yn ol heb yn wybod iddynt eu hunain, a chlywn ambell riddfan weithiau a dorrai fy nghalon. Daethant o'r diwedd i odre'r Tir Tywyll na oleuid gan ddim ond eira, a bu raid torri llwybr anobeithiol lawer gwaith trwyddo iddynt eu hunain. Gwelent bantle ysgafn, ysgafn, yn awr ac eilwaith,—ôl troed yn yr eira wedi ei guddio â llawer o gawodydd. Ond gymaint y chwiliasant am arwyddion llwybr ag y daethant yn fyw iawn i bob arwyddion, pa mor eiddil bynnag y byddent. Wedi mil o siomiannau, a phopeth bron yn methu
Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/87
Gwedd