Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o flinder yn ei dro ond eu penderfyniad,—eu golwg, eu clyw, eu harogl,—ymbalfalasant ymlaen yn ol eu teimlad (oherwydd cadwai gwres eu calonnau eu teimlad yn fyw), at agen fach yn yr eira wedi ei chysgodi â rhew, oedd yn gartref y dewin.

Braidd y gwelent ef pan ddaethant yno gan mor wyn ydoedd. Dillad wedi eu nyddu o blu eira oedd ei ddillad, mantell eira oedd trosto, wyneb fel llewych eira oedd iddo, a rhidens eira ei wallt a'i farf, a siaradai fel rhu cawod o eira dan y gwynt. Edrychodd arnynt yn hir, yna gofynnodd iddynt agor eu dillad iddo weld eu mynwesau, a darllen eu calonnau, ac er eu bod bron llewygu gan y tanrew, eu hagor a wnaethant. Darllennodd yntau eu calonnau, ac nid oedd wall yn yr ysgrifen oedd arnynt. Dywedodd wrthynt y gyfrinach yr holent amdani,— fod dau Rosyn Cudd yn bod, mai hwy oedd rhieni blodau'r byd, ac yn gofalu amdanynt, ond bod yn rhaid cael rhywun i'w darganfod ac edrych arnynt unwaith ymhob cenhedlaeth, neu y byddai i'r blodau i gyd farw, gan na allai'r Rhosynnau Cudd, heb hynny, ofalu amdanynt. Holasant y dewin yn danbaid iawn ymhle yr oedd y Rhosynnau Cudd, a sut yr oeddynt i'w hadnabod. Gwenodd yntau arnynt mor gynnes, yn wyneb ysbryd eu holi, nes i eira ei gartref ddechreu meirioli, a bu raid iddo droi i edrych mor chwerw ag i fferru eu gwaed, er mwyn ei galedu drachefn. Dywedodd wrthynt