goleuo'r lle trosto, ac yn eu goleuni gwelodd Aa mai gorwedd ar wely o flodau, y rhai prydferthaf a welwyd erioed,—yr oedd. Edrychodd Em â'r llygaid tân hyn i fyw ei wyneb, a dywedodd yn wyllt," Aa, rydwi'n gweld y Rhosynnau Cudd, dacw nhw, dacw nhw, ar—; ond cyn i Aa gael cyfleustra i edrych, tywyllodd llygaid Em, caeodd hwy, a hunodd dan wenu. Hunodd ei hun diddeffro ar wely o flodau yng nghanol yr eira a'r unigedd diderfyn, draw y tuhwnt i fynydd mwyaf Tir y Dyneddon.
Syllodd Aa arno'n hir, yn hiraethus a siomedig,—yr unig oleuni y gwelwyd y Rhosynnau Cudd ynddo wedi diflannu, yr unig un a'u gwelodd wedi mynd o'r Tir Tywyll, yntau yno'n unig, heb oleuni, heb gyfaill, a heb ddim i'w gadw rhag cydfarw ag ef, ond tân ofnadwy ei galon ei hun, a wresogwyd wrth iddo roddi ei ddillad i gysgodi Em. Eithr nid oedd neb yno mwy iddo ef ei gysgodi na thrwsio ei glwyfau.
Teimlodd y blodau o amgylch Em, nes i'w teimlad fynd i'w fysedd ac i'w wefusau. Gwasgodd ei fantell amdano'n dynnach, a gadawodd ef yno i orffwys yng nghwmni ei wên a'r Rhosynnau Cudd, a chychwynnodd ar y daith hirfaith yn ol. Nid oedd yn anodd canfod y llwybr ar y rhan o'r daith y cariodd Em drosti, oherwydd er bod yr eira wedi chwythu'n drwm dros y lle, ymwthiai duwch y