Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Em. Gwnaethant le esmwyth iddo eistedd, a rhoddasant fwyd a diod iddo. Wedi'r gofyn mawr hwn, tawelodd popeth, hyd yn oed y blodau, i wrando arno. Dywedodd yr hanes yn syml, ond nid y cwbl ohono. Dywedodd am eu gwaith yn dyfod o hyd i'r dewin, am eu dringo wedyn, am yr oerfel, a methiant Em, ac am ei waith yn canfod y Rhosynnau Cudd yng ngoleuni ei lygaid ei hun cyn huno. Ond ni allai esbonio iddynt ymhle yr oedd ei fantell ef, na phaham nad oedd ganddo ddim ond darnau o'i ddillad eraill. Tawodd y gorfoledd, a daeth distawrwydd oer tros y lle. Dechreuodd y blodau aildyfu a chanu yn eu tyfu, rhag torri ei galon â'r oerfel hwn oedd yn fwy iddo ef nag oerfel yr eira diderfyn ei hun. Dechreuodd hwn ac arall sibrwd a sisial wrth yr agosaf ato. Cryfhaodd y sibrwd a'r sisial, ac ymhyfhai'r olwg amheus ar wynebau'r llu dyneddon, ac yntau'n anesmwyth ac oer yn eu canol, heb ddeall y newid sydyn a newydd hwn.

Ymhyfhaodd un ym mhendraw'r dyrfa yn ddigon i daflu sen arno nad oedd ei stori'n wir, mai wedi lladd Em yr ydoedd o eiddigedd am ddarganfod ohono'r Rhosynnau Cudd y methodd ef ei hun eu gweled, ac mai olion y frwydr rhyngddynt oedd rhwygiadau ei ddillad. Daeth yr un sen o'r cwr yma a'r cwr arall o'r dyrfa, a daeth math ar sŵn ansicr trosti, fel griddfan chwerw, caled, a ddangosai iddo faint ei llid.