Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni allai ef, a ddaliodd oerfel y Tir Tywyll ddal yr oerfel hwn. Cyfododd a chychwynnodd ymaith yn araf, ac eiddil, a phrudd. Methai â deall dim, a'r byd yn dywyll, dywyll,—yn dywyllach na'r Tir Tywyll ei hun.

Fel y ciliai tua ffin y Tir Tywyll, chwyrnellai ambell garreg heibio iddo, ac ambell un yn ei gyrraedd, a chryfhai chwerwder y dyrfa o hyd, fel llanw'r môr yn dyfod i mewn pan fo storm yn ei ddannedd. Dechreuodd symud ar ei ol, yn araf, yna'n gyflymach, nes troi'n rhedeg mewn berw o lid. Ni awyddasai ef am weld y Rhosynnau Cudd am fod Em eisoes wedi eu gweld, ac yr oedd hynny'n ddigon i'r blodau dyfu; ond teimlai erbyn hyn y carai gyd-orwedd ag Em draw yn yr unigedd cynnes hwnnw rhag oerfel ofnadwy'r dyrfa. Pan gyrhaeddodd y dyrfa ffin y Tir Tywyll yr oedd ef eisoes wedi ei groesi, dan ei ddoluriau, ac ni feiddiai hi ei ddilyn ymhellach. Aeth ef ymlaen gan chwilio am ei hen lwybr, i orffwys gydag Em. O'r pellter, fel y dringai, clywai lais y dorf yn tyneru, tyneru, o hyd, nes o'r diwedd dyfod yn rhyw fath ar fiwsig llariaidd yn ei helpu i ddringo, fel llais y llanw sy'n dryllio'r llongau, i drigolion y dyffrynnoedd pell. Daeth yn y man i'r Distawrwydd Mawr, a dechreuodd ddiffygio, ac yn y diffygio, meddwl am ei siomiant, colli'r croeso gartref, a cholli cydymdeimlad Em. Mor ddiffygiol yr aeth ag y gorffwysodd