Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr eira, ac wylo dan ei boen. Yno yr oedd yn unig, heb ddim ond eira yn obennydd a gwely iddo, hyd yn oed cân llid y dyrfa wedi distewi, ac Em draw'n gorffwys yn dawel mewn gwely o flodau yng nghwmni'r Rhosynnau Cudd. Disgynnai ei ddagrau'n gawod ar yr eira, a thoddai'r eira danynt, nes ffurfio llyn o ddwfr glân gloyw. Gwelodd Aa y llyn, edrychodd iddo, ac yr oedd delw ei wyneb ynddo yn waed i gyd. Golchodd ei wyneb, yn llesg, goreu y medrai, oherwydd gwyddai ei fod yntau bellach ar fin gorffwys, ac nid oedd am i neb a ddigwyddai ddyfod o hyd iddo weled ôl ei ddoluriau tros Em. Yn wyneb hyn, gwresogodd ei galon drachefn, a theimlai ei gwres yn cerdded trosto.

O dipyn i beth daeth ei wyneb yn lân oddiwrth y gwaed. Ar ol llesgedd maith galwodd y munudau y tania llygaid i oleuo'r llwybr rhwng deufyd heibio iddo yntau. Edrychodd i'r llyn yn eu goleuni, gwelodd ei wyneb ynddo eilwaith,—ac ar ei ruddiau ei hun yn nwfr y llyn, gwelai yn fflamio, y Rhosynnau Cudd, yr un rhosynnau ag a welodd Em pan orweddodd i orffwys, a'r un rhosynnau ag y methodd y dyneddon eu gweld am nad oedd eu llygaid ar dân, er i'r rhosynnau fod ar ei ruddiau ef o hyd.

Gorweddodd dan wenu, ar bwys y llyn, a gorffwysodd yno, ac yno y gorffwys o hyd, gan huno ei hun diddeffro, ac nid yw'r llyn dwfr hwnnw wedi rhewi byth.