Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr anturiaeth o ysgrifenu ei hanes yn yr hen iaith anwyl sydd wedi sefyll bradwriaethau, ac ymosodiadau ffyrnig wyllt gelynion dros oesau rhwng bryniau yr Ynys Wen. Caresem pe buasai y wobr a'n hamgylchiadau yn caniatau i ni fyned i ragor o fanylrwydd yn ein ymdriniaeth a'r testyn; ond nid oedd genym ddim yn well i'w wneud yn wyneb yr anfanteision na dwyn cynifer ag a allasem o ffeithiau hanesyddol, a'u gosod yn y dull byraf a mwyaf manteisiol i'r darllenydd. Cawsom lawer o drafferth , a mwy felly nac oeddym wedi ei ddirnad ar y dechreu i gysoni gweithiau gwahanol awduron Seisnig oeddynt wedi ysgrifenu ar hanes y lle; oblegyd dywedai un fel hyn, a'r llall fel arall, ac yn aml ni fyddai y naill na'r llall yn gywir, yn wyneb adroddiadau personau fuont yn dystion lawer o bethau a goffeir genym yn y traethawd. Yn awr yr ydym yn ei gyflwyno i sylw y darllenwyr, gyda dyweyd ein bod wedi gadael un lle allan heb gyffwrdd dim ag ef o gwbl, yr hwn sydd er ys blynyddau bellach yn ysmotyn tywyll yn narlunlen hanesyddol Merthyr Tydfil. Pa bryd yr ymlanheir?