Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRAETHAWD AR HANES MERTHYR

MERTHYR—Y DULL Y CAFODD YR ENW—HANESIAETH HENAFOL—Y COURT HOUSE—A CHASTELL MORLAIS.

Merthyr Tydfil sydd blwyf yn gorwedd yn nghwr gogleddol swydd Forganwg, 24 milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd, a 175 o filltiroedd i'r gorllewin o Lundain, yn mesur 17,744 o erwau o dir, a 11,450 o dai, yn meddu poblogaeth o 49,814, yn ol y cyfrifiad diweddaf. Hyd y plwyf o'i gwr mwyaf gogleddol i'w gwr deheuol sydd tua 11 milltir, a thua 4 milltir a haner yn y man lletaf. Medda bump cantref, enwau y rhai sydd fel y canlyn:—Abertaf a chynon, Fforest, Howellwermod, Garth, a'r Gellideg. Rhenir ef ar du y de-orllewin oddiwrth blwyf Llanwyno gan ffin sydd rhwng Godrecoed a thyddyn Abertaf a chynon; ar du y gorllewin gan ganol twyn Taran-y-celyn, Rhiw'r-capel, yr Heol las, y Gist a'r Cefn bychan, hyd flaen Nant y ffrwd; oddiwrth blwyf Aberdar, gan Pant-y-pwll-dwr, Pen-y-ddysgwylfa, Carn gwersyll-y-meibion, Twyn-melyn, Twyn y-glog, tua deg llath i'r ochr ddwyreiniol i Garn-pant-y-lanhir, Waun-y-gwair, a thrwy yr ochr ddwyreiniol i Garn-y-frwydr, a'r ochr ddwyreiniol i Garn Gwenllian dociar, Ffynon Brynbadell, yr hon sydd a'i dwfr yn arllwys i'r ddau blwyf-Aberdar a Merthyr, eto dros Fryn-y-gwyddel, a thros fedd y Cawr i Garn y ffwlbert, a thros y Twyndu i'r Maenbrych; oddiwrth blwyf Penderyn, ar du y gogledd-orllewin gan y Maen melin a Nant-y-ffrwd; oddiwrth y Vaenor, ar du y gogledd, gan Taf-fechan i fyny hyd at Bont y sticyll, oddiyno mewn cyfeiriad unionsyth i Bwll-gwaun-Morlais, oddiyno i Gastell-y-nos, yr hwn a'i rhana ar du y gogledd oddiwrth Gelligaer a Llaneti, oddiyno trwy ganol tafarndy Twyn-y-waun i flaen Cwmbargoed. Ar ei gwr dwyreiniol oddiwrth