Ni fwriadwyd erioed i'r lle hwn fod yn ddim amgen nag amddiffynfa, ac ni fu erioed yn drigfan neb o Arglwyddi Morganwg.
Saif у Castell hwn ar fryn rhwng y Nant Morlais, a'r Taf Fechan, tua 3 milltir i'r gogledd o Ferthyr Tydfil, ac y mae yr olwg ar y lle a'r wlad o'i amgylch yn wir farddonol Y Taf Fechan yn ymddolenu yn furmurawg rhwng y coedydd talfrigog yn y Cwm ar yr ochor ogledd-orllewinol iddo, a'r wlad yn ganfyddadwy dros lawer o filldiroedd agos yn mhob cyfeiriad mynyddau Brycheiniog, y rhai a wisgent ar eu penau gaenen o eira dros agos un ran o bedair o'r flwyddyn, a ddyrchafent i'r uchder o 2,863 o droedfeddi uwchlaw gwyneb y môr, yn nghyd a thyrau dadfeiliedig a gwylltedd unigol yr hen Gastell, a lenwai feddwl yr ymwelydd a phrudd ystyriaeth, ac adgofion o ryw gyfnodau difrodus a gweithrediadau trahaus tywysogion a phendefigion eiddigeddus a thrachwantus y canrifoedd a aethant heibio; ac ar y llaw arall, wrth fanwl arsyllu ar ddull gwneuthuriad yr hen Gastell, y mae y meddwl yn cael ei lenwi â syndod, am gywreinwaith celfyddyd yn amser ei adeiladiad. Bu yr hen Gastell hwn mewn agwedd hollol ddadfeiliedig hyd yn ddiweddar. Yn y flwyddyn 1819, daeth un Mr. Abraham Jones, olwynydd, o Ddowlais, o hyd i bastwn-fwyell (pole axe) hynodol wrth chwilio i'w weddillion. Yn haf 1846, yn ôl cyfarwyddeb E. J. Hutchins, Ysw., o Ddowlais, glanhawyd ynddo ystafell, sydd yn mesur oddeutu 90 o droedfeddi o dryfesur, ac yn ei chanol golofn sydd yn dal ei nenfwd yr hwn sydd wedi ei wneud i fyny o ddeuddeg o feini-fwâu. Y mae y fynedfa i'r ystafell