Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar yr ochr orllewiniol iddo mae twll dwfn wedi ei gloddio yn y graig, lle a fwriadwyd yn ol pob tebyg, i gael dwfr at wasanaeth y Castell. Ond o herwydd fod dynion wedi ac yn bod yn achlysurol yn treiglo ceryg i mewn iddo, mae wedi llanw llawer o'r dull oedd ar y cyntaf; ond y mae eto uwchlaw 100 troedfedd o ddyfnder. Saif gweddillion y Castell hwn ar tua 3 erw o dir, a dywedir iddo gael ei ddinystrio y tro cyntaf yn amser ei adeiladydd, Ifor Bach, tua'r flwyddyn 1110. Dywed eraill mai tua chanol y ddwyfed ganrif ar bumtheg y dinystriwyd ef gan filwyr y senedd; ond gwell genym roddi coel i'r blaenaf, o herwydd pe buasai mor ddiweddar a'r olaf, buasai genym well hanes am dano, ac mae ei fod ar waith yn amser ei ddinystriad yn profi yn ddigon eglur mai y cyntaf sydd yn nesaf i gywirdeb. Mae yn bresenol yn meddiant Cwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais, y rhai sydd wedi glanhau ac adgyweirio llawer arno yn y blynyddoedd diweddaf, ond y mae yn aros eto rai ystafelloedd heb eu hagor, y rhai yn ddiameu a dalent yn dda am hyny o lafur.

Yn awr awn rhagom i roddi desgrifiad sut y daeth у tiroedd sydd yn mlwyf Merthyr Tydfil, i feddiant y prif arglwyddi o'r lle.


YR ARGLWYDDI BOREUOL—TROSIAD YR ETIFEDDIAETHAU I'R ARGLWYDDI PRESENNOL—ENWAU FFERMYDD Y PLWYF—EU PERCHENOGION, A'U DEILIAD.

Gwedi i Iestyn ab Gwrgant, ArglwyddMorganwg, wneud ei addewid i un o'r tywysogion Normaniadd, o'r enw Robert Fitzamon, y byddai iddo roddi ei ferch, Nest, yn wraig iddo, ar yr amod y byddai iddo ei gynorthwyo ar y maes yn erbyn ei elyn, Rhys ab Tewdwr, cymerodd Fitzamon y cynygiad, a chyd drefnasant eu byddinoedd er mwyn cyfarfod Rhys mewn lle a elwir hyd heddyw Hirwaen Gwrgant, ger Aberdar, pryd y cymerodd ymladdfa waedlyd le, ac y trodd y fantol yn erbyn Rhys, fel y gorfu arno ffoi am ei einioes; ond daliwyd ef ar ei ffoedigaeth ger Pen Rhys, yn ymyl Cwmrhondda, lle torwyd ei ben pan yn 82 mlwydd oed. Wedi i Iestyn trwy gynorthwy y llu Normanaidd gael yr oruchafiaeth ar Rhys a'i fyddinoedd, meddyliodd fel