Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer un arall, yn ol i ystorm o gyfyngder fyned drosodd, y gallasai droi y gath yn y badell, trwy omedd bod yn unol a'i addewid i'r tywysog Normanaidd. Ond er gwaethaf y modd iddo, goddiweddwyd ef a dydd o ofwy eilwaith, yr hwn a drodd allan yn waeth na'r cyntaf, trwy i Fitzamon droi ei arfau ato, i'r dyben o'i orfodi i sefyll at ei addewid, a'r canlyniad fu iddo gymeryd meddiant o Gastell Caerdydd, ac arglwyddiaeth Morganwg oddiarno, gwersyllodd yn Ngastell Caerffili hyd nes iddo gael ei orchfygu mewn brwydr, a ymladd wyd gerllaw Gellygaer. Yn olynwyr iddo mewn gwaedoliaeth ac hawl i'r etifeddiaeth, yr oedd y De Clares (y nawfed o freninoedd Morganwg), a'r De Spencers y rhai hefyd fuont yn cyfaneddu yn y Castell hwn. Oddiwrth y De Spencers y deilliodd yr etifeddiaeth i'r Beauchamps a'r Nevils, gyda mwy na'r rhan gyffredin o ddirwyon a threuliau a achoswyd gan ymrysonau a godent yn achlysurol rhyngddynt hwy a'r rhai a honent eu hunain yn iawn berchenogion yr etifeddiaeth, nes o'r diwedd yn ol hir ymgypris, iddi fyned yn eiddo y Goron, trwy frwydr fythgofiadwy Bosworth, yn amser Harri VII. yr hwn a'i trosglwyddodd yn ol yn ffafr William Herbert, Iarll Penfro. Disgynodd rhan o'r etifeddiaeth hon trwy briodas i'r Windsors, a thrwy briodas ag un o etifeddesau yr Herberts, daeth ardalydd Bute i feddiant o'i arglwyddiaeth. Ac yn ol y Quarterly Review, disgynodd y rhan arall i'r Clives. Ond nid felly yn y plwyf hwn, perchenogion boreuol ei arglwyddiaeth hwy oeddynt Lewisiaid y Van, ger Caerffilly, oddiwrth y rhai hyny trwy bryniad ac nid trwy etifeddiaeth briodasol, y disgynodd yn eiddo iddynt, y rhai fel y dangosir yn y daflen nesaf ydytt yn meddu llawer o diroedd yn y plwyf hwn. Perchenog boreuol arglwyddiaeth "Dynevor a Richards," yn y plwyf hwn oedd y Milwriad Prichard oedd yn byw yn Llancaiach fawr, ac yn uchel sirydd yn Nghaerdydd, yn y flwyddyn 1599; yr oedd yn gwasanaethu yn myddin Cromwell; meddodd ddwy ferch, priododd un ag un o'r Dynevors a'r llall ag un o'r Richards, felly disgynodd ei ystad yn rhanol rhyngddynt.