Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cnwc | C. R. Tynte | E. Purchase |
Nantfain | C. R. Tynte | E. Purchase |
Perthigleision | R. Griffiths | L. Lewelyns |
Abervan fach | R. Griffiths | W. R. Smith |
Abervan fawr | L. Jenkins | L. Jenkins |
Ty'r nyth | Rev, D, Davies | D Evans |
Forest | Thos Williams | Thos Williams |
Ynys Owen | E M Wood | L Jenkins |
Penygraig | E M Wood | M Price |
Tir y Cook | W Richards | R Davies |
Cefn y Fforest | T Richards | D Pritchard |
Trwyn gareg | C. M. Wood | L Jenkins |
Pentanas, | J Perrott | E. W. Scale |
Penybylchau | H Williams | Thos Edmunds |
Mount Pleasant | E Davies Ysw | E Davies Ysw |
Tai'r lan | T Lewis | T Lewis |
'Ty newydd | E. Lewis | A Lewis |
Cwmcothi | Thos Jenkins | J Jenkins |
Ty'r ywen | W Lewis | W Lewis |
Pont y rhun. | C. R Tynte | E Purchase |
Troedyrhiw | W Lewis | D Williams |
Ffawyddog | Lady Windsor | Thos Edwards |
Pont y gwaith | R. Foreman | Thos Parry |
Buarth glas | J Jenkins | L Jenkins |
Cefn glas. | John Jenkins | John Jenkins |
Godrecoed | Thos Jenkins | Thos Jenkins |
COFRESTR O RAI O'R TEULUOEDD HENAF A PHARCHUSAF YN Y PLWYF, YN NGHYD A'U TRIGFANAU
Y Fforest. Yr hwn le sydd wedi bod yn drigfan henafol y Williamsaid, teidiau Mr. Thomas Williams, y trigianydd presenol. Olrheinia Mr. Williams ei deidau yn ol yn y lle hwn fel y canlyn:-Thomas, Dafydd, Thomas, William, Thomas, Dafydd, Thomas; felly, a chyfrif ond deugain mlynedd i bob un o'r saith fyw yn annibynol ar ei deidau, gwelir fod yr achau yma er ys pedwar ugain ar ddeg o flynyddoedd, ac nid yw yn hysbys pa gynifer o flynyddoedd cyn hyny. Mae amrai deuluoedd parchus wedi cael eu cychwyniad o'r lle hwn-teulu Pwllyhwyaid ac ereill allem eu henwi, pe caniatai ein gofod. Lewis Williams, ewythr Thomas