Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tu arall i'r berth, penderfynasant ymafyd ynddo a'i daflu dros y berth, iddo gael ei fwynhau. O hyny allan byddai yr anifail yn eu haros yn yr un man bob boreu; ac felly gwnaethant iddo, nes iddo ddyfod yn un o'r creaduriaid barddaf a allesid weled. Bu perchen y cae mewn dyryswch mawr mewn perthynas iddo, am nas gallasai ganfod ei olion yn niweidio y cloddiau yn un man. Canodd rhywun y penill canlynol iddynt, wrth ganfod eu diwydrwydd a'u dewrder yn wahanol i'w cymydogion, yn nhymor cynhauaf:—

"Mae'r Tori wedi ffaelu,
A'r Ysw. yn gorfod gwaeddi,
Y lleill a'u gwyr sy'n colli'r dydd,
A’r Meyricks sydd yn maeddu."

Yr oedd hen brif ffordd Merthyr a Chaerdydd, cyn amser Bacon, yn arwain trwy y man y saif cyntedd y ty hwn yn bresenol; a chludwyd llawer o gyrff y plwyf olion tua'r gladdfa drwy y lle hwn.

Abervan Fawr. Arosle henafol y Jenkinsaid-dynion hawddgar, caruaidd, a heddychlawn a breswylient linol-lin yn y lle er ys llawer o ugeiniau o flynyddoedd. Yn perthyn iddynt hwy mae un gyfran o'r mynydd tal syth a elwir Cefn-y-van; oddiar hwn,ar ddiwrnod clir, gellir canfod naw o eglwysi plwyfol, heblaw am rai o addoldai. Pan yn edrych oddi yma tua'r gogledd, mae mynyddau Maesyfed a'u trumau i'w gweled yn ymestyn tua'r nen. Wrth droi ein golwg tua'r deau-ddwyrain canfyddwn Hafren, a'r llongau yn dawnsio ar ei thonau brigwyn. Tu draw iddi gwelir milltiroedd meithion o Wlad-yr-haf, a gyda chymorth yspienddrych yr ydys wedi canfod oddiyma gaeau o yd yno; felly, gwelir y gellir canfod oddi yma dros gan milltir o ffordd. Bu un hen weddw oedranus a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw Sarah, Daren-y-gigfran, yn byw mewn cilfach anial rhwng Taren-y-gigfran a Chefn-y-van, ar y tir hwn dros 23 o flynyddoedd; yr oedd haner milltir o leiaf rhyngddi a'r ty nesaf, sef Abervan; ei chymydogion nesaf oeddynt y ddylluan, y gigfran, y wiwer, y wenci, yr ysgyfarnog, a'r llwynog. Dyma'r fath gyflwr o neillduedd, yn ngwir ystyr y gair, yr oedd yr hen ddynes