Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiniwed ag a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Mae iddi ferch ac wyres yn byw yn Mynwent y Crynwyr yn bresenol (yn 1864). Mae maen a elwir Maen gwaeddi ger y ty hwn. Tebygwn iddo dderbyn yr enw oddiwrth fod preswylwyr yr hen anedd-dy ac ereill yn arferol o'i gymeryd yn safle i waeddi ar wahanol achosion yr alwedigaeth amaethyddol, &c.; sigla ychydig pan eir i'w ben.

Perthigleision. Hen breswylfan y Williamsaid. Buont yn berchenogion Abervan-fach, ac haner tir Perthigleision, a Lewisiaid y Van oeddynt berchenogion y rhan arall. Un o'r Williamsaid hyn a adnabyddid yn gyffredin gan yr ardalwyr wrth yr enw Hen Squire, neu y Squire Williams. Bu yn ei feddiant helgwn tra nodedig o ddefnyddiol yn y cyfnod hwnw, i erlyn llwynogod, &c. Yr oedd y boneddwr parchus hwn yn ber thynas agos i Domosiaid y Lechfaen, yn Llanvabon.

Hafod-tanglws-isaf, neu yn hytrach Hafod-Ann-dlws. Hen gartref y Dafisaid, y rhai ydynt linach barchus iawn yn eu cymydogaeth, ac y maent yn cyfaneddu yn y lle hwn er ys ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd.

Hafod-tanglws-uchaf. Trigle y diweddar Edward William Harri a'i achau. Nid oes cymaint a thraddod. iad wedi ei adael yn gofnodiant i ni o'u dechreuad yn y lle hwn. Yr oedd Hafod-tanglws-isaf, Hafod-tanglws uchaf, a Penlan-draw, yn ol y dyddiadau a gafwyd ynddynt, wedi eu hadeiladu rhwng y 10fed a'r unfed ganrif ar ddeg.

Troed-y-rhiw. Hen berchenogaeth a phreswylfa Morgansaid y Fodffordd. Gwerthasant y tir hwn i gwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais; a bu Sir John Guest, A.S. yn byw dros ychydig amser yn y ty hwn. Enillodd Lewisaid, Dangddraenen y tir hwn i'w perchenogaeth trwy gyfraith a fu rhyngddynt yn ddiweddar a chwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais.

Pentrebach. Trigfan henafol y Jonseaid, y rhai oeddynt berthynasau i achau Penrhiwyronen, Tontailwr, ac Abervan.

Taibach a'r Dyffryn. Preswylfa y Tomosaid, oddiwrth ba rai yr hanodd Tomosaid y Pudwall, yn Llanfabon.