Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gethin. Hen breswylfa y Lewisaid. Gellivaelog. Trigfan henafol L. Jenkins, yr hwn fu hefyd yn byw yn Clynmil, yn berthynas i deul o y Graig. Yr oedd yn wr cyfrifol yn ei ardal, ac yn cyd oesi a Bacon.

Graig. Trigfan henafol y Morgansaid, teulu gwir barchus yn Merthyr.

Maerdy. Hen arosfan y Dafisaid, perthynasau i deulu y Graig a'r Ysgubor-newydd. Bu yma hefyd helgwn tra nodedig flynyddau maith yn ol. Mae yr hendyddyn agos oll yn orchuddiedig gan dai yn Merthyr.

Garth. Preswylfan y Dafisaid-yr un a Pantysgallog; o'r hwn le y cafwyd y rhan fwyaf o geryg adeiladu at wasanaeth Dowlais yn yr 20 mlynedd di weddaf.

Gwaelod-y-garth-fawr. Preswylfa y Morgansaid dynion adnabyddus a chyfrifol iawn yn Merthyr.

Pant-Cadifor. Hen arosle y Nicolasaid. Bu un o'r achau hyn yn llosgi calch yn odynau y Twynau-gwynion oddeutu 120 o flynyddoedd yn ol, yr hwn oedd y lle hynaf ag sydd genym hanes am dano yn y plwyf hwn i losgi calch. Un o'r perthynasau hyn a hynododd ei hun yn fawr fel un o'r meddygon anifeiliaid enwocaf ynei oes. Mae rhai o'r perthynasau hyn yn y lle hyd heddyw.

Bellach yr ydym yn terfynu y benod hon, gyda dyweyd y carasem gofnodi llawer yn rhagor o deuluoedd parchus yn ein plwyf, ond ni chaniata ein gofod i ni wneud hyny heb chwyddo ein hanesiaeth yn fwy na'i maintioli bwriadol; gan hyny, awn rhagom i draethu ein llen ar trem ar arwynebedd y plwyf.

TREM AR ARWYNEBEDD Y PLWYF

Nid oes ond tuag un ran o dair o'r tiroedd sydd yn mhlwyf Merthyr yn ddiwylliedig, a chymharu yr oll gyda'u gilydd. Gwneir ef i fyny, gan mwyaf, o goed-diroedd diffrwyth, gelltydd eang, mynyddau a ranau o fynyddoedd a gwaundiroedd. Un o'r gelltydd mwyaf nodedig ag sydd yn y plwyf yw Gallt-daf, yr hon sydd