Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tua haner milltir o led, a thua phedair o hyd, yn gorwedd ar yr ochr ddwyreiniol i'r brif-ffordd a arweinia o Ferthyr i Gaerdydd. Y nentydd mwyaf nodedig yn y plwyf ydynt Morlais a Dowlais, y rhai a ymunant a'u gilydd ger Pont-y-gellifaelog, ac a arllwysant yn un i'r afon Taf, ger y Bont-haiarn. Ar yr ochr orllewinol i'r afon mae Nant-y-ffrwd, Nant-canaid, Nant-cwmdu, a Nant-fain. Ac ar yr ochr ddwyreiniol i'r cwm mae Nant-ddu a Nant-yr-odyn, yn ymarllwys i'r afon Taf, y flaenaf ger Mynwent y Crynwyr, a'r olaf ger y Pentrebach. Eto, tu arall i'r mynydd ar yr ochr ddwyreiniol mae Nant y-fedw, a Nant cothi yn ymarllwys i Fargoed, y flaenaf tua dwy a'r olaf tua milltir i'r gogledd o Fynwent y Crynwyr. Nid oes ond nifer fechan o dyddynod yn y plwyf yn fanteisiol iawn i amaethyddiaeth, am nad oes yma ond ychydig o wastad-dir dyffrynol, yr hwn sydd yn ymestyn oddiwrth Weithiau y diweddar A. Hill, Ysw., gyda glan yr afon hyd odreu tyddyn Ynys Owen. Amgylchynir ef ar y ddau du gan lechweddau serthion a bryniau uchel, heb ond heolydd geirwon ac anghelfydd ar hyd-ddynt yn cynyg eu gwasanaeth i'r hwsmon a'r ymwelydd.

Tra thebyg fod yr oll sydd o Gwm-taf, yn y plwyf hwn, pan yn ei sefyllfa foreuol, yn gyforiog o goedydd ac anialwch annhrigianol ond gan y llwynog, y carw, y blaidd, y gath goed, y bela, y wiwer, yr ysgyfarnog, y wenci, y wningen, &c. Oblegyd mae olion grynau o dir, lle y cynyrchwyd yd, yn ganfyddadwy hyd yn nod. ar gopäau y mynyddoedd uwchaf. Dywedir fod y cyfryw wedi bod dan lafur mor ddiweddar ag amser Iestyn ab Gwrgant, ac mai y rheswm penaf dros eu llafurio oedd, fod byddinoedd Rhys ab Tewdwr ac Iestyn ab Gwrgant wrth dramwy drwy y cymoedd, yn difrodi ac ysbeilio meddianau eu trigianwyr, fel y ffoisant i'r mynyddoedd am ddyogelwch. Modd bynag, nid yw y dybiaeth yn ymddangos yn wrthun a direswm; ond gwell genym ni y dybiaeth gyffredin o boblogiad a diwylliaeth y mynyddoedd cyni un hwsmon erioed osod swch ei aradr i dori un gwys yn un o'r cymoedd. Mae y gweddillion