Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Derwyddol yn gystal ag amaethyddol yn ddigon o seil iaui ni sylfaenu ein cred mai penau y mynyddoedd a boblogwyd gyntaf yn y plwyf hwn, yn gystal â phlwfi ereill. Mae ar y mynydd sydd rhwng Aberdar a Merthyr, olion amrai o weithrediadau Derwyddol, megys y coffr careg ar y Cefn-bychan, un arall ar Dwyn-y-cnwc; a barna rhai, oddiwrth yr olion, fod beddau ger hwn. Hefyd, yn ymyl y fan hon, ar yr ochr ddeheuoli'r bryn, mae maen mawr, a elwir Maen-pump-bys; derbyniodd yr enw oddiwrth fod llun llaw dyn a'i fysedd yn eglur iawn ynddi. Mae traddodiad yn dyweyd i ryw gawr, o ryfedd faintiolaeth, ei thaflu i'r lle hwn, yn groes i Gwm-taf, o Benrhiw'r-geifr, ac mai ol ei fysedd ef ydynt. Yn ymyl hon hefyd mae un arall, ar fynydd Edward Thomas, un arall ar fynydd Howel ab Ifor; a bernir fod amrai ereill mewn cernydd ar hyd y mynydd yma a thraw. Mae carnedd o geryg ar y mynydd hwn sydd yn un o'r nodau ffiniol rhyngom ag Aberdar, a elwir Carn-Gwenllian Dociar. Yr oedd yn ferch i Howell Gwyn, un o achau y Toncoch, yn mhlwyf Aberdar; ac mae traddodiad yn dyweyd wrthym ei fod yn arferol o gario ei ferch ar ei fraich, pan oedd hi yn blentyn, i fyned i guddio arian yn y garn y soniwn am dani. Yn mhen rhyw dymor daeth amgylchiadau i symud y ferch hon i'r Bont-faen, lle y priododd a Sais o'r enw Dociar, ac yr adgofiodd am yr hyn a welodd ei thad yn ei wneuthur, pryd y cychwynodd yn nghyd a'i gwr tua'r fan, lle y cawsant arian, yn ol eu herfyniad. Ac o hyny hyd heddyw gelwir hi Carn-Gwenllian-Dociar.

Mae ar y mynydd hwn hefyd weddillion brwydrawl yn weladwy, megys Carn-y-frwydr, a Bedd-y-cawr, y rhai a dderbyniasant eu henwau oddiwrth ysgarmes waedlyd a ymladdwyd ger y lle rhwng byddinoedd Rhys ab Tewdwr a Iestyn ab Gwrgant, yn flaenorol i'r frwydr a ymladdasant ar Hirwaen-gwrgant, ger Aber dar. Yn ymyl yno hefyd mae lle aelwir Bedd-y-Gwyddel; ac o'r braidd na thueddir ni i gredu mai yn fuan wedi merthyrdod Brychan Brycheiniog a'i blant y cwympodd y Gwyddel y sonir am dano; oblegyd cawn hanes fod Nefydd mab Rhun Dremrudd wedi cynhyrfu