Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

preswylwyr yr ardaloedd i ymffurfio yn fyddin, fel y gallai ymddial ar yr estroniaid am farwolaeth ei daid, ei dad, a'i fodryb, yn yr hyn y bu i raddau yn llwyddianus nes eu gyru ar ffo.

Nid oes un gweddillion brwydrawl ereill yn ganfyddadwy yn un ran o'r plwyf, oddigerth Castell-morlais, hanes yr hwn a welir mewn penod arall o'r llyfr. Dywedir i frwydr gael ei hymladd ger Troedyrhiw, rhwng byddin Cromwell a byddin un o arglwyddi Morganwg, ac mai oddiwrth enciliad un o'r byddinoedd hyn y cafodd y tyddyn sydd gerllaw yr enw o Gilfach-yr-encil.

Am eirwiredd yr hanesiaeth, gadawn y darllenydd i olrhain a barnu ei chywirdeb drosto ei hun.

Bellach, awn rhagom i draethu ein llen ar

HAIARN WEITHFEYDD Y PLWYF

Dechreuwn yn gyntaf gyda Pontygwaith. Lle a gafodd yr enw oddiwrth fod yno bont goed ar yr afon ger y fan y safai y Gwaith—ychydig yn uwch i fyny ar yr afon na'r un bresenol, yr hon sydd adeilad gadarn wedi ei gwneud o geryg a lusgwyd i'r lle, yn ol pob tebyg, o Graig-daf. Mae rhai o henafgwyr y plwyf yn cofio adeiladu hon.

Gorwedd y lle hwn yn Nghwm-taf, tua chwe milltir i'r de-ddwyrain o Ferthyr; a chytuna haneswyr mai yma yr adeiladwyd y ffwrnes gyntaf yn y plwyf hwn, er ei fod yn anhawdd penderfynu i foddlonrwydd yr amser ei gwnaed, am nad ydyw hyny wedi ei drosi i ni gan ffeithiau hanesyddol argraffedig na thraddodiadol. Cymaint sydd genym ag a allwn ymddibynu arno yw fod y ffwrnes hon yn gweithio yn yr unfed ganrif ar bumtheg, yn ol dyddiad a gafwyd ar ddarn o haiarn a ddarganfyddwyd yma wrth archwilio yr hen weddillion, y rhai ydynt agos a chael eu hysgubo gan ffrwd amser i ebargofiant, fel nad oes yma ddim o'i olion heddyw yn ganfyddadwy ond gweddillion hen glawdd a gludai ddwfr at y gwaith, yn nghyd ag adfeilion muriau hen anedd-dy, a'r rhai hyny agos yn orchuddiedig gan wylltedd anialwch anghyfaneddol. Bu y darn haiarn y soniasom am dano yn meddiant yr adnabyddus David