Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mutchet, ac arno y dyddiad 1555; ac nid ydys wedi dyfod o hyd i ddim arall yn y lle hwn gwerth ei gofnodi. Cludid yr haiarn oddiyma ar gefnau mulod a cheffylau i Gaerdydd a Chasnewydd. At yr hyn a nodasom yn barod, cofnodwn yr hyn a ganfyddwyd yn llyfyrgell Merthyr. Traetha fel hyn, "Yn amser y Frenines Elizabeth bu cyfraith yn Nadleudy Cyfiawnder yn Llundain, gan Edward Mutchet a John Watkins, a Bridget ei wraig, yn erbyn Elizabeth Mynifie, mewn perthynas i goed-diroedd, yn Llanwyno, a Gweithiau Haiarn, yn mhlwyf Merthyr Tydfil." Golosg-goed oedd ganddynt, meddir, yn toddi yr haiarn yn y lle hwn, a megin yn chwythu blast iddi. Mae gweddillion ffwrnes arall i'w gweled rhwng y camlas a'r afon Taf, ychydig uwchlaw Pont-y-rhun, yr hon yn ôl pob tebyg, oedd yn cael ei gweithio gan ddwfr o'r afon, yn ol yr olion sydd yno yn ganfyddadwy.

Eto, yr oedd ffwrnes yn Cwmgwernlas tua'r un amser, neu ychydig yn ddiweddarach, yn perthyn, yn ol pob tebyg, i'r un cwmpeini; yr hon fel un Pontygwaith, oedd yn cael ei chwythu gan fegin; a'r cwbl yn cael ei gario tuag atynt, yn gystal ac oddi wrthynt, ar gefnau ceffylau a mulod.

Y lle nesaf y cyfeiriwn ein golygon tuag ato ydyw Dowlais, oddiwrth Nant-duglais, neu dau-lais. Bwrdd dir mynyddig yn gorwedd tua dwy filltir i'r gogledd o Ferthyr. Tra yr oedd y dadwrdd a'r si wedi lledaenu ar hyd a lled y deyrnas am ffwrnes Pontygwaith, Pont-y-rhun, a Chwmgwernlas, tarawodd feddyliau rhai o deulu y codau, sef gwyr yr arian, y gallasai fod yn y plwyf hwn ryw gyflawnder o fwnau a allasent gario gweithfa, neu weithfeydd ar raddeg llawer eangach na'r rhai oeddynt yn bresenol, fel y penderfynodd rhyw nifer o honynt gynal cyfarfod yn Merthyr Tydfil er ceisio cynllunio ffordd i brofi eu damcaniaeth, a chymerodd y cyfarfod hwn le tua decbreu yr unfed ganrif ar bumtheg. Ac yna yr ydym yn cael hanes am rai o achau Cefnmably yn prydlesu rhyw ddarn o dir yn Dowlais gan y Windsors, i'r dyben o godi glo