Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un o'r swyddogion mwyaf adnabyddus ei gymeriad & fu yn arolygu y gwaith hwn oedd John Evans, yr hwn sydd wedi ymneillduo oddiwrth ei lafur i fywyd anghyoedd yn mhrydnawn ei oes. Daeth Clarke i'w le, yr hwn sydd ddyn tra pharchus a chyfrifol. Dywedir y bydd i Ifor Guest yn fuan gymeryd llywyddiaeth y gwaith yn hollol iddo ei hun. Wel, gwneled felly ynte, a bendithied Ior ei holl amcanion a'i gynlluniau i fod o fawr les iddo ei hun a'r gweithwyr.

GWAITH Y GYFARTHFA TREFNIAD Y BRIF-FFORDD A'R GAMLAS

Tua diwedd y flwyddyn 1762, neu ddechreu 1763, daeth marsiandwr cyfrifol o Lundain i'r ardal hon o'r enw Anthony Bacon, i'r hwn y mae cychwyniad a chynydd y lle hwn, gan mwyaf, yn ddyledus. Pan ddaeth i Ferthyr gyntaf yr oedd yn cael ei dynu mewn cerbyd bychan gan fulod dros heolydd disathr o arddull Rhufeinaidd, y rhai oeddynt debycach i gloddiau, neu ffosydd nag i heolydd. Yr oedd yn achos i'r meddwl difrifol mewn synfyfyrdod i ymholi beth allasai fod yn ei argymhell i gyflawni y fath anturiaeth bwysig ag oedd ganddo mewn golwg. Yr oedd Dowlais y pryd hwn yn ei fabandod, a thrysorau mwnawl y plwyf, gan mwyaf, yn guddiedig gan orchudd o wybodaeth amheus, fel yr oedd agor gweithfa mewn ardal mor fynyddig, yn ngwyneb cynifer o anfanteision, yn ymddangos braidd yn ormod o orchwyl i'w gyflawni. Ymddangosai mor anhawdd ag adeiladu castell ar siglenydd Cors fachno. Ond beth bynag am hyny nid oedd rhwystrau yn ddigonol i atal treiglad olwynion masnachaeth, ac fel y dywed y Sais, "Money makes the mare to go." Ac yn nghanol dystawrwydd man anial a gwledig, yn ymyl ac o gylch pentref bychan tylawd yr olwg arno, oedd yn cael ei wneud i fyny o un eglwys oedd yn gof-golofno dreiglad oesau lawer a aethant heibio, a rhyw nifer o hen fythynod llwydion eu muriau, oeddynt a'u penau yn addurnedig gan wellt y maes, ni a'i cawn yn rhoddi y ffrwyn i benderfyniad ac ymroad, gan anturio prydlesu darn o dir cymaint ag 8 milltir o hyd wrth 4 o led, dros