99 o flynyddoedd, am £200 yn y flwyddyn, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1763, perthynol i'r Arglwyddi Dynevor a Richards oeddynt y tiroedd yma, y rhai a wnaent y rhifedi o 23 o dyddynod.
Nid gwylltedd anniwylliedig llethrau mynyddau ein plwyf oedd wedi denu un o ddisgynyddion Hengist i adael gorwychedd addurnol y brif ddinas i ddyfod yma i breswylio, ond a llygaid eryraidd, yr oedd wedi can fod ysglyfaeth werthfawr a orweddodd yn nghudd ychwaneg na 2,000 o flynyddoedd, o leiaf, oddiwrth sylw ein hen deidau anymchwilgar ni, er fod yma erwau lawer o'r mwnau yn ymddangos agos ar y wyneb; ac ond odid nad oedd llawer un o'n hen dylwyth wedi taro eu traed yn eu herbyn pan wrth y gwaith o fugeilio y praidd oes i oes, ond "pwy mor ddall a'r hwn na fyn weled." Ni chollodd y Sais anturiaethus Anthony Bacon ddim amser cyn iddo godi dwy ffwrnes, tua'r flwyddyn 1780; ac ar ei gais,gadawodd tua 12 o weithwyr celfyddgar dref fechan Caerwrangon, y rhai, trwy eu hanturiaeth a agorasant faesydd cynyrchiol i'w hiliogaeth, y rhai, erbyn heddyw, sydd a'u henwau megys yn freninoedd yr haiarn fasnachaeth dros y byd gwareiddiedig; ac er mwyn cyfiawnder yn gystal a chyflawnder nyni a roddwn restr o honynt fel dynion teilwngo gael eu cofnodi yn mhlith anturiaethwyr cyntaf ein plwyf.
Y tri blaenaf a ddaw dan ein sylw yw Samuel, Jeremiah, a Thomas Humphrey; tad y tri hyn oedd yn feddianol ar forthwylfa yn Stewpony, ger Storebridge, yn y swydd a enwasom; yr hyn oedd wedi rhoddi mantais dda i'w feibion i fod yn gelfyddgar mewn haiarn wneuthuriad. Yn eu plith yr oedd Joseph Hesman a'i ddau fab, John a William, yn nghyd a'i ddwy ferch, Benjamin Brown, gof wrth ei alwedigaeth, Charles a Thomas Turley, purwyr (refiners), James Leeh a'i ddau fab, John a Thomas, yn cyd-deithio a hwy yn yr un llestr, ar ddiwrnod a noswaith hynod arw a pheryglus. Yr oedd Thomas Humphrey, tra yr oedd Samuel a Jeremiah yn cyd-dramwy dros y tiri'w cyfarfod yn llongborth Penarth, ger Caerdydd. Wedi iddynt