Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Gyfarthfa cyn y flwyddyn 1805; pryd yr oedd yn y lle hwn chwech o ffwrnesau, a dwy felin-dro (rolling mills). Y gwaith hwn oedd y pryd hwnw y mwya. yn Europ, os nad y mwyaf yn y byd adnabyddus Cynwysai 1,500 o weithwyr yn enill tua'r amcangyfrif o £ 1 108. yn yr wythnos gyda'u gilydd, yr hyn oedd yn gwneud i'r cyflogau chwyddo yn wythnosol i'r swm enfawr o £ 2,250. Gwnaethant yn y flwyddyn oedd yn terfynu yn 1806, tna 9,906 o dunelli o haiarn. Tuag at weithio y gwaith, yr oedd gan y perchenog, R. Crawshay, Ysw., bedair o ager beirianau, un yn 50 gallu ceffyl, a'r llall yn 40 gallu ceffyl, un arall o 12 gallu ceffyl, ac arall o saith gallu ceffyl. Erbyn y flwyddyn 1815, nid oedd yn y lle hwn ond un ffwrnes yn rhagor nag yn 1805; yr hyn oedd yn gwneud eu rhifedi y pryd hwnw yn saith, ac anfonasant gyda'r gamlas y flwyddyn hono 18,200 o dunelli o haiarn, yr hyn oedd rywle tua 50 tunell yn yr wythnos. Erbyn 1845, yr oedd y Gwaith wedi cynyddu i un ar ddeg o ffwrnesi, y rhai a wnaethant yn y flwyddyn hono 45,760 tunell o haiarn, yr hyn oedd tua 80 tunell yn wythnosol. Yn y flwyddyn 1846, agorwyd yma felin gledrau newydd, yr hon a gynwysai beiriant o 280 gallu ceffyl, 20 0 ffwrnesi pudling, a 18 o ffwrnesi bolo (balling furnaces), a'u hanebgorion cysylltiol, yn welleifiau a llifau, &c. Y cynllunydd a'r peirianydd oedd un o'r enw Williams, yr hwn, trwy ei ddyfais a'i gywreinrwydd a enillodd glod iddo ei huna bery pan fydd ei feddwl wedi ehedeg o dwrf yr olwynion i fyd yr ysbrydoedd.

Yn y flwyddyn 1847, gwnawd yn y felin newydd, mewn un wythnos, y swm aruthrol o 1,144 o dunelli o gledrau, yn nghyd ag un trosol haiarn, mwyaf a wnawd erioed, meddai rhai. Mesurai 27 troedfedd o hyd, 6½ modfedd o dryfesur, yn pwyso 2,941 pwys.

Un o'r pethau mwyaf nodedig a chelfyddgar a wnawd mewn cysyllytiad a'rgwaith hwnoedd yrhodfawrawnawd gan Gymro o'r enw Watkin George, yn cael ei gynorthwyo gan William Aubrey, yn y flwyddyn 1800. Tebygol mai yn meddwl y blaenaf ei lluniwyd, ac yna a wnawd o haiarn bwrw, yn mesur 50 troeddfedd o drawsfesur