Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth chwech troedfedd o drwch; ac wedi ei dullweddu i'r dwfr fod a thri gallu arni tuag at ei throi, i fyny, yn ei chanol, a'i gwaelod; a'i chrothellau, lle yr ydoedd yn troi, a bwysent gant tunell. Meddai 5 o gallu ceffyl ac yn costio £4,000. Tynwyd hi i lawr er ys tua deugain mlynedd yn ol, a gosodwyd yn ei lle beiriant i weithio wrth ager.

Trwy ei ddiwydrwydd, ei ddyfeisiau, a'i ddefnyddioldeb yn y gwaith, daeth Watkin George i gymaint parch a ffafr gyda'i feistr, fel y dywedai rhai iddo fod yn rhanol yn yr elw oddiwrth y gwaith dros rai blynyddau. Ymneillduodd cyn ei farwolaeth oddiwrth ei lafur i fywyd o dawelwch, i fwynhau ffrwythau ei ddyfeisiau a'i ddiwydrwydd, gyda £30,000 yn ei logell.

Nid oes unrhyw gynydd na dygwyddiad wedi cymeryd lle mewn cysylltiad a'r gwaith gwerth ei gofnodi yn y blynyddau diweddaf, yn rhagor nag adnewyddiad y brydles dros 99 o flynyddau, yr hyn a gymerodd le 1860, yr hyn, er fod y cyflogau yn isel, oedd yn gysur a dyddanwch i tua 3,500 o weithwyr. Priodol yw crybwyll mai Cymro, o'r enw Thomas Llewelyn, a wnaeth y trosol haiarn cyntaf yn y gwaith hwn.

YR HEN DY GER GWAITH Y GYFARTHFA—ELW ETIFEDDION BACON, A CHYNLLUNIAD Y GAMLAS.

Cafodd y Gyfarthfa yr enw oddiwrth hen amaethdy a safai lle mae y gwaith, ger yr hwn le yr adeiladodd Bacon dy iddo ei hun, o ymddangosiad gorwych mewn cydmhariaeth i'r hyn oedd adeiladau yn gyffredin yr amser hwnw, yn enwedig yn nghyffiniau Merthyr Tydfil. Ond er i hwn fod yn drigfan addurnol un amser i Bacon a'i olynwyr, y mae bellach mewn cyflwr gresynus, wedi ei anurddo gan y mwg a'r llwch a godai gyda'r gwynt, a'i rodfeydd fuont unwaith yn heirddwych, ydynt bellach yn ffyrdd i gludo pethau tua'r gwaith ac oddiwrtho. Bu yr adeilad hwn yn drigfan y Crawshays hyd adeiladiad y castell, hanes yr hwn a welir mewn penod arall o'r llyfr.

Pan ymadawodd sylfaenydd cyntaf y gwaith hwn