Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiyma, yr oedd ganddo i amodi a Mr. R. Hill, am y tiroedd perthynol i Iarll Plymouth, yn gystal ac ag R. Crawshay, Ysw., am y tiroedd perthynol i'r Gyfarthfa; ac oddiwrth y ddau le hyn y deilliodd y swm o £10,000 yn y flwyddyn dros lawer o flynyddoedd i etifeddion Bacon, yr hyn oedd yn elw oddiwrth ei gytundeb blaenaf a'r tir-feddianwyr. Nid oedd ganddo ef yr un hawl yn Ngwaith Penydaren na Dowlais. Gelwir Gweithiau y diweddar Anthony Hill, Ysw., yn Weithiau Plymouth, oddiwrth deitl perchenog y tiroedd lle y safant. Ac os ydym o dan rwymau i gydnabod Mr. Bacon fel cychwynydd ac achosydd y gweithfeydd mawrion hyn, a'r dref frys-gynyddol hon sydd wedi ei thaflu i fyny megys gan ddamwain, i Iarll Plymouth, yn nghyd a Mr. Tait, Lewis, a Mr. Guest, o Ddowlais, Richard Crawshay, Ysw., Cyfarthfa, ac Humphreys, Penydaren, yr ydym yn ddyledus am gynllunio y gamlas sydd yn awr o Waith y Gyfarthfa i Gaerdydd. Dywedir mai yn meddwl un o'r Humphreys y cafodd hwn ei gynlluniad ar y dechreu; ond beth bynag am eirwiredd y gosodiad, rhoddodd Iarll Plymouth ei enw yn flaenaf, yn cael ei ddilyn gan y boneddigion a enwasom, yn nghyd ag ereill o berchenogion tiroedd yn y plwyf, wrth ddeiseb i fyned i'r Senedd er ymgeisio at gael y cynllun i weithrediad, yr hyn a gymerodd le y 4ydd dydd o Chwefror, 1790; a llwyddasant yn eu hamcan y tro cyntaf, y 19eg o fis Ebrill dilynol. Yr ail waith, y 23ain o'r un mis, a'r waith olaf, Mai y 6fed, yn yr un flwyddyn, a dechreuwyd tua di wedd Mehefin canlynol. Gan fod llawer, os nad y rhan fwyaf o'r arian wedi eu tanysgrifio yn barod gan yr arglwyddi a'r haiarn farsiandwyr, nid oedd un anhawsder ar y ffordd, yn lluddias ei orpheniad buan, fel y daeth i derfyniad yn y flwyddyn 1798; croesir ef gan tua 40 o bontydd, ac y mae ynddo tua'r un nifer o locks, y rhai a wnant ei ddyrchafiad yn Merthyr i fod yn 568 o droedfeddi, a phum modfedd uwchlaw ei gychwyniad yn Nghaerdydd.