Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth Bont-y-rhun y mae peiriant a wnawd ar y cyntaf gan un James Watt, at godi dwfr o'r afon Taf i ddiwallu y camlas. Yr oedd gallu yr hen beiriant i godi deg tunell y fynyd, tra y mae gallu yr un peesenol i godi cymaint arall yn yr un amser. Mae yn beirianwaith yn gystal ag adeiladaeth ragorol, ac yn weddnodiad cywrain o allu meddyliol ac arianol. Wele ddesgrifiad y bardd, Ifor Cwmgwys, mewn englynion a fuont yn fuddugol mewn eisteddfod yn Troedyrhiw:—

"Mae agerdd beiriant, myghardd, bery—' n glod
I feib glew y Cymry
Wrth Bont'rhun, trwy nerth ban, try
Hen Daf fwyn red i fyny.

Ager, gan gynddeiriogi—a red
Am le rhydd trwy'r gwythi,
A'r aer ddyfr roer i'w ddofi,
Gauer o'i mewn-mae grym hi.

Unwaith egyr ei thagell—o'r llyn dw’r,
Ei llond dyn i'w phibell;
Symud bob mynud mae'n mhell
O gant hon ugain tunell.

I mewn tyn gymaint a all—o'r tew
Ddwfr Taf yn ddiball;
Yf un llif, denfyn y llall
I'w boeri'r wyneb arall.

Sugno a gwthio'n gyweithas—o'r Taf
Mae ddwfr tew ac atgas,
Yn donau brwnt, duon, a bras,
A'u hymlid tua'r camlas.

Enw ei lluniwr, er ein lloniant—welir
Ar gymalau'r peiriant,
Mae'n bur yn mesur o'i mant,
I ni gân ei ogoniant."


Costiodd y gamlas £103,600.

GWAITH PENYDAREN

A gafodd yr enw oddiwrth dyddyn Penydaren, lle saif y gwaith a gychwynwyd gan yr Humphreys, ar ôl yr ymrafael digwyddiadol fu rhyngddynt hwy a'r gweithwyr, a Bacon, yn Ngwaith y Gyfarthfa. Yr oedd