Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fall of Merthyr. Hawdd y gall pob ystyriol ddirnad ar unwaith fod yn agos i bedair mil o ddynion gael eu hamddifadu o'u cynhaliaeth, braidd yn ddirybudd, yn ergyd anadferadwy braidd i fasnach y lle.

Ond bellach mae genym yr hyfrydwch o draethu fod y cwmwl du fu yn 'ongian uwchben y lle hwn bellach wedi ei wasgar gan awelon masnach a thrafnidaeth, yn cael ei ysgwyd gan y boneddigion Mri. Davies, Victoria-street, Merthyr, T. Williams, Trecynon, Aberdar, yn nghyd a boneddigion ereill. Ac mae yr olwynion trymfawr oeddynt dan gramen o rwd yn awr yn dechreu troelli, a'r mwg a'r fflamiau yn esgyn o eneuau y gwahanol ffwrnesau tua'r entrych, gan ddwyn gwawr adnewyddol a gobeithiol ar y lle.

ADEILAD Y PENYDAREN MANSION HOUSE, A GWNEUTHURIAD Y FFORDD HAIARN I'R BASIN.

Yn amser cychwyniad Gwaith Penydaren, yr oedd Samuel Humphreys yn byw yn Merthyr, yn y ty y trigianodd Mr. Dyke y meddyg wedi hyny. Tua'r blynyddoedd 1785-88, neu 1790, adeiladasant y Mansion House, ar gae Tydfil. Hwn oedd y ty mwyaf ardderchog yn y plwyf yn ei amser cyntaf; ac yma y canfyddai y teithiwr a'r negeseuwr foneddigion a boneddigesau ar foreuau a phrydnawnau teg ac hafaidd, yn ymbleseru ar hyd y rhodfeydd gwyrddlas o flaen ac o amgylch yr adeilad gorwych hwn. Yn agos ar eu cyfer, neu ychydig yn uwch i fyny, yr oedd eu Gweithfa yn ganfyddadwy; o'r hwn le yr ymddyrchafai y fflamiau tuag i fyny gyda thwrf, gan fflachio eu goleuni ar y ty drwy gydol yr hirnos; ac yn y dydd gwelid y mwg yn taro allan o eneuau y ffwrnesau, yn gymysg a'r fflamau rhuddgochion, gan ddiog esgyn tuag i fyny uwch moelydd a chymylau. Fel yr oedd Gweithiau Dowlais, Penydaren, a Phentrebach yn cynyddu ac eangu yn y blynyddoedd 1800—1—2—3, yr oedd yr anghyfleusderau a'r anfanteision i'w gweithio yn llwyddianus yn cydgynyddu a hwy. Yr oedd Gwaith y Pentrebach yn sefyll tu arall i'r afon, tua haner milltir oddiwrth y gamlas. Penydaren yn