Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd tua 500 o weithwyr yn gweithio yma y pryd hwnw, a'r treuliau tuag at ei gario yn mlaen yn £4,000 yn fisol. Yn y flwyddyn 1815 yroedd yma dair ffwrnes, a gwnaethant 7,800 o dunelli o haiarn. Yn y flwyddyn 1845, yr oedd cynydd dirfawr wedi cymeryd lle yn y Gwaith, fel yr oedd yma saith o ffwrnesau erbyn hyny, a gwnaethant yn y flwyddyn hono 29,120 o dunelli o haiarn. Mae wedi cynyddu eilwaith i wyth o ffwrnesau, ac wedi anfon yn y flwyddyn ddiweddaf tua 30,000 0 dunelli. Adeiladwyd un o'r ffwrnesau hyn tua dechreu y ganrif bresenol, a pharhaodd mewn gwaith dros 45 o flynyddoedd, pryd y daeth angen ei adgyweirio erbyn hyny, o herwydd meithder yr amser yr oedd wedi bod yn gweithio. Yr oedd darn o haiarn ar ei gwaelod yn pwyso tua 100 tunell. Bu ffwrnes arall yn Ngwaith Ynysfach 30 mlynedd yn llosgi yn barhaus; a dywedir fod pob un o'r ffwrnesau tawdd yn costio £6,500 yr un, a chyfrif treuliau adeiladu, yn nghyd a gosod peirianau, morthwylfa, ffwrnesau puddling a balling, &c., cysylltiedig a hi,a phob peth angenrheidiol tuag at iddi weithio yn llwyddianus, yr hyn a gyfrifir pan y byddo yn gwneud o 80 i 120 o dunelli o haiarn yn yr wythnos. Ond y mae cyfnewidiad y tywydd, symudiad y gwynt, a newidiad yn nhymer yr awyrgylch, yn nghyd a gradd fechan o leithder yn y blast yn gwneud eithriadau i achosi ei llwyddiant a'i haflwyddiant. Golygir fod 303 o bersonau yn ofynol ar gyfer pob un o'r tawdd ffwrnesau, (sef ballers, forgemen, refiners, &c.) Mae glo Merthyr wedi ei brofi yn mhlith y goreuon tuag at doddi haiarn; gofynol i'w gael mor bur ag sydd ddichonadwy oddiwrth bob sothach diwerth cyn y gall gynyrchu haiarn da, hyd yn nod o'r gareg fwn oreu. Defnyddir 6 tunell o'r glo hwn i doddi pob tunell o haiarn; a gwneir tua 70 y cant oddiwrth bob cant pwys o lo. Ond nis gwneir o'r un faint o olosg, yn yr awyr agored ag a wneir mewn ffwrnesau, o herwydd fod gan y tywydd, y gwlaw a'r gwynt, &c, eu gwahanol effeithiau ar y llosgiad a'i gynyrch.

Cyn y rhoddwn y penawd hwn heibio, yr ydym am goff hau rhai o rinweddau y diweddar A. Hill, Ysw.; yn