Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYFOETH MWNAWL Y PLWYF

Anturiwn ddyweyd nad oes nemawr o blwyfau yn Mhrydain Fawr, os oes yn y byd, le o'i faintioli mor gyfoethog a phlwyf Merthyr Tydfil. Ymffrostia rhai yn nghyfoeth yr еuraidd wledydd pellenig megys Nova Scotia, Columbia Brydeinig, California, ac Australia. Ond anturiwn yn hyf ddyweyd na fedda y naill na'r llall o'r lleoedd a nodasom fwy o gyfoeth na phlwyf Merthyr Tydfil. Ac er cymaint y gweithio sydd wedi bod ar y mwnau hyn yn y can mlynedd diweddaf, nid ydys eto ond megys dechreu agor y cilddorau iddynt, fel y gellir dywedyd yn hyf nad oes ond prin un ran o bump eto wedi ei gweithio yn y plwyf. Ac i'r dyben i'r darllenydd gael mantais deg i ffurfio barn am fawredd y cyfoeth sydd yn guddiedig yn nghronbilau ei greigiau, ni aroddwn fraslun o honynt yn iaith yr estroniaid sydd tu draw i Glawdd Offa.

Felly, gwelwn y bydd llawer o genhedlaethau wedi cicio sodlau eu gilydd dros ddibyn amser cyn y bydd i'r darn olaf o'r gwythienau a enwasom gael ei godi i oleuni haul. Er i un hen wreigen oedd yn byw rhywle tua Phant-y-waun ryw ganrif a haner yn ol,